Mater - cyfarfodydd
Strategic Review of the Care Sector
Cyfarfod: 24/10/2017 - Cabinet (eitem 68)
68 Adolygiad Strategol o’r Sector Gofal PDF 94 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad o’r Adolygiad Strategol o’r Sector Gofal. Er mwyn cefnogi’r sector lleol, roedd Cyngor Sir y Fflint wedi ariannu swydd 12 mis i edrych ar y ffactorau allweddol a oedd yn dylanwadu ar freguster y sector gofal yn Sir y Fflint.
Roedd cynllun rhaglen wedi’i ddatblygu i roi sylw i feysydd blaenoriaeth allweddol o’r gwaith, a byddai’r prosiect yn cefnogi’r achos tystiolaethol a wneir yn Sir y Fflint ar freguster y sector, gan helpu i roi sylw i rai o’r materion brys a godwyd gan ddarparwyr a chomisiynwyr. Byddai’r adroddiad yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi’r achos am fwy o fuddsoddiad yn y sector gofal cymdeithasol, a byddai’n cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a'i rannu gyda phartneriaid.
Byddai’r adroddiad, a nododd yr angen am fwy o arian, gwelliannau gweithlu a chydnabod anghenion llawn y farchnad, yn hwyluso’r sail dystiolaeth ar gyfer gwneud achosion yn genedlaethol.
Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i Aelodau o’r Cabinet am gefnogi’r darn hwn o waith ar ddatblygu achos busnes, a’r argymhellion wrth symud ymlaen.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod pob partner yn cefnogi’r gwaith a wnaed ac roedd y cyfrifoldebau ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Cyngor.
Croesawodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn rhagweld galw yn y dyfodol. Dywedodd y byddai’n helpu cefnogi cam nesaf o lobïo i Lywodraethau’r DU a Chymru, gan ei fod yn dangos breguster y sector gofal.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, esboniodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu bod yr adroddiad yn trafod goblygiadau posibl o ran sut y gallai Brexit effeithio ar y sector gofal.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad, a oedd yn dangos pa ymyriadau a oedd eu hangen yn y sector gofal, a’r pwysigrwydd o ddatblygu gweithlu y gellid ei gadw. Dywedodd fod Cyngor Sir y Fflint o blaid gwasanaethau fel cartrefi gofal. Ychwanegodd y Prif Weithredwr, pe bai’r Cyngor yn cael gwared ar ddarpariaeth tri chartref gofal yn y Sir, byddai'r awdurdod yn dal â dyletswydd i ddarparu llefydd, ond nid oedd cyflenwad gan ddarparwyr allanol. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai unrhyw ddewisiadau amgen i gartrefi gofal y Cyngor ei hun yn fwy drud.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad;
(b) Bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi; a
(c) Bod y dull gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo er mwyn iddynt ymateb i anghenion y sector gofal.