Mater - cyfarfodydd

Adoption of Zone 3 Deeside Industrial Park

Cyfarfod: 24/10/2017 - Cabinet (eitem 71)

71 Mabwysiadu Parth 3 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy pdf icon PDF 89 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Mabwysiadu Parth 3 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

 

                        Esboniodd nad oedd y ffyrdd o amgylch Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi’u mabwysiadu, ond dros y 6 mis diwethaf, roedd materion wedi’u datrys ac roedd y Cyngor mewn safle i fabwysiadu’r ffyrdd a’r troedffyrdd.  Wrth fabwysiadu, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu’r Cyngor gyda swm cyfnewidiol a oedd yn gyfwerth â’r gost o ailadeiladu rhai o’r ffyrdd cerbydau a throedffyrdd yn yr ardal.  Roedd yr adroddiad yn argymell ailddyrannu’r arian mewn ffordd fwy adeiladol, er mwyn uwchraddio'r llwybrau troed i ddarparu rhwydwaith beiciau penodol o amgylch Parth 3, a oedd yn unol â dyhead y Cyngor i wella Cysylltiadau Teithio Llesol ledled Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.  Roedd y cynnig hefyd wedi’i alinio ag uchelgeisiau Cynllun Glannau Dyfrdwy a’r weledigaeth ehangach o gysyniad "Metro” cludiant integredig Gogledd Ddwyrain Cymru.

 

                        Roedd materion parcio sylweddol o fewn Parth 3, a oedd wedi creu problemau mynediad a digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a oedd yn gysylltiedig â gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn parcio eu cerbydau ar rai ffyrdd dros nos.  Byddai’r cynigion yn yr adroddiad yn helpu i roi ateb i’r ddau fater hyn.

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a'r llwybr beiciau, gan fod darn helaeth o'r rhwydwaith beiciau a oedd ar goll drwy'r Parth.  Mynegodd bryder yngl?n â’r problemau parcio dros nos ym Mharth 3, y gellid ond ei ddatrys drwy ddarparu parc i lorïau.  Roedd y Cynghorydd Attridge yn cytuno gyda’r safbwyntiau o ran y problemau parcio dros nos, a dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru ddeall y byddai’r broblem yn symud i fan arall hyd nes y byddai parc lorïau’n cael ei roi.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo defnyddio Adran 228 o’r Ddeddf Priffyrdd, fel dull i fabwysiadu’r priffyrdd ym Mharth 3 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy; a

 

(b)       Chymeradwyo’r ailddyraniad o’r arian swm cyfnewidiol, sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru, i wella'r troedffyrdd i ddarparu rhwydwaith beiciau integredig sy’n gwasanaethu pob busnes a leolir ym Mharth 3.