Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 16/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 25)

25 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:   Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried.  Cytunwyd y byddai eitem SARTH yn cael ei symud i'r cyfarfod yn y gwanwyn, ynghyd ag adroddiad diweddaru ar Safon Ansawdd Tai Cymru a Chartrefi Newydd. 

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd George Hardcastle at y cyflymder y bu i swyddog tai ddelio ag ymateb brys gan Carelink, a gofynnodd i'w ddiolch gael ei basio i'r swyddog am ei waith caled. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton i adroddiad ar fesuryddion deallus gael ei gynnwys yn y Rhaglen Waith i'r Dyfodol i'w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.