Mater - cyfarfodydd
Potholes and Resurfacing Programmes
Cyfarfod: 17/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 36)
36 Ceudyllau a Rhaglenni Ailwynebu PDF 126 KB
Egluro’r broses gysylltiedig i gadarnhau rhaglen ailwynebu priffyrdd y Cyngor
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd adroddiad i roi diweddariad ar y prosesau a ddefnyddir i nodi rhaglenni ail-wynebu a'r dulliau gorau o atgyweirio a chynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd. Dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu'r dull o adnabod ffyrdd, gan gynnwys y drefn arolygu a'r lefelau ymyrraeth a weithredir gan y Cyngor. Hefyd, rhoddodd yr adroddiad fanylion am wariant cyfalaf a lefelau buddsoddi ar yr amrywiol asedau priffyrdd, yr opsiwn triniaeth a ffafrir ar gyfer ffyrdd cerbydau megis trwsio tyllau, gwisgo’r wyneb neu ail-wynebu a budd cost trwsio ceudyllau dros dro.
Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Chris Dolphin ynghylch cyflwr rhai ffyrdd, dywedodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd fod archwiliadau diogelwch rheolaidd yn digwydd a bod unrhyw ddiffygion wedi'u nodi a bod y gwaith atgyweirio angenrheidiol wedi'i drefnu. Cywirwyd diffygion a oedd angen sylw brys neu eu gwneud yn ddiogel adeg yr arolygiad. Mae diffygion nad ydynt yn berygl neu risg dybryd yn cael eu rhaglennu i'w hatgyweirio o fewn yr amser a ddiffinnir yn y polisi fel y nodir yn yr adroddiad. Cydnabu’r Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dolphin a chytunodd i'w gyfarfod yn dilyn y cyfarfod i drafod y problemau penodol yn ei Ward yngl?n â chynnal a chadw ffyrdd a goleuadau stryd. Dywedodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd fod y Cyngor yn adolygu ei bolisi arolygu bob 2 flynedd a byddai 'Polisi ar gyfer Arolygon Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrryd ac Amseroedd Ymateb' yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo erbyn Gorffennaf 2018.
Mewn ymateb i sylwadau ac awgrymiadau gan Aelodau ynghylch yr angen i archwilio defnyddio mathau eraill o ddeunyddiau ar gyfer gwisgo arwyneb ffyrdd, dywedodd y Prif Swyddog bod nifer o gynhyrchion amgen wedi cael eu defnyddio yn y gorffennol a byddai'n parhau i wneud ymholiadau ar yr awgrymiadau a gyflwynir ac adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth, cytunwyd y byddai'r Aelodau'n cael gwybodaeth ynghylch pryd y cynhelir arolygiadau diogelwch priffyrdd yn eu Wardiau a byddai adborth yn cael ei ddarparu ar y sgoriau cyflwr.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.