Mater - cyfarfodydd
Armed Forces Covenant Annual Report
Cyfarfod: 24/10/2017 - Cabinet (eitem 74)
74 Adroddiad Blynyddol y Lluoedd Arfog PDF 89 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog. Roedd Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog a'u teuluoedd yn cael eu trin yn deg, yn ogystal â’r rhai sy’n gwasanaethu heddiw.
Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog drwy weithio gyda nifer o bartneriaid a oedd wedi llofnodi’r Cyfamod, gan gynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a’r Lleng Brydeinig. Byddai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd yn ymuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd cadarnhaol a wnaed i fodloni Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gefnogi a bod yr ymrwymiadau pellach yn cael eu cefnogi; a
(b) Bod Adroddiad Blynyddol y Lluoedd Arfog yn cael ei gymeradwyo cyn i'r Cyngor llawn ei gymeradwyo, a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor.