Mater - cyfarfodydd

Financial Forecast and Stage One of the Budget 2018/19

Cyfarfod: 16/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 22)

22 Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19 pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:  Darparu'rrhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid, Cyfrifo a Systemau Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r rhagolwg ariannol cyfredol ar gyfer 2018/19 yn ogystal â’r pwysau ariannol a’r opsiynau newydd ar gyfer y portffolio Cymuned a Menter.

 

            Diwygiwyd y rhagolwg ariannol a oedd wedi’i nodi yn adran 1.04 yr adroddiad, i ystyried y penderfyniadau a wnaed fel rhan o gyllideb 2017/18, a’i ddiweddaru â’r wybodaeth ddiweddaraf o ran pwysau gan bortffolios gwasanaeth.  Defnyddiwyd setliad yr un fath neu debyg i waelodlin ariannol 2017/18 fel sail ar gyfer cyfrifo'r rhagolwg ar gyfer 2018/19 ac nid oedd unrhyw fodel ar gyfer codi lefelau Treth y Cyngor wedi’i gynnwys yn ystod y cam hwn.

 

            Daeth y Rheolwr Cyllid, Cyfrifo a Systemau Corfforaethol i’r casgliad bod cam un y cynigion ar gyfer y  portffolio gwasanaeth yn cael eu cyflwyno drwy gydol mis Hydref i'w hadolygu gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.  Roedd y Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro i’w gyhoeddi ar 10 Hydref, 2017. Roedd y setliad terfynol i’w gyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn galendr, yn dilyn datganiad cyllideb Canghellor y Trysorlys ar 22 Tachwedd 2017. 

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) i gyflwyno'r Datganiad Gwytnwch a’r Modelau Gweithredu ar gyfer y portffolio Cymuned a Menter.

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog y Datganiad Atgyfnerthu, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd manylu ar yr arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi'u gwneud hyd yma ac effeithiau’r arbedion effeithlonrwydd hyn ar y gwasanaethau o fewn y portffolio Cymuned a Menter. 

 

            Rhoddodd Rheolwr Cyllid y Gwasanaethau Cymunedol fanylion am yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer 2018-19, sef cyfanswm o £0.837m a £0.893m, fel y manylir yn y Model Gweithredu yn y Dyfodol, a ddangosir yn Atodiad 2. Roedd yr arbedion arfaethedig yn cynnwys trefniadau newydd ar gyfer taliadau ffôn i gysylltu â’r Gwasanaeth Cysylltiadau, addasiad i ddarpariaeth dyledion gwael, effeithlonrwydd y gweithlu ac arbedion y Cynllun CTRS.             

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at Hawliau Lles a’r aelodau o staff Sir y Fflint sy’n gweithio gyda Chyngor ar Bopeth, gan helpu i gefnogi hawlwyr gyda Chredyd Cynhwysol a gafodd oblygiadau mawr.  Gofynnodd a ddylai llywodraethwyr ysgol dynnu mwy o sylw at argaeledd prydau ysgol am ddim.  Awgrymodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai y dylid lobio unrhyw un a allai ddylanwadu’n genedlaethol neu’n lleol, am nad oedd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddefnyddio gan deuluoedd a allai gael mynediad ato.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin at brydau ysgol am ddim, gan awgrymu y byddai mwy o sgyrsiau gyda rhieni yn fuddiol er mwyn annog y defnydd ohonynt.

           

Croesawodd y Cynghorydd Dolphin y cynnig o ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd, er mwyn lleihau nifer y teuluoedd sy’n gorfod aros mewn llety gwely a brecwast.  Rhoddodd sylw hefyd ar y Tîm Hawliau Lles a chafodd sioc mai dim ond 2 aelod o staff oedd yn y tîm, gan ofyn a oedd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir.

 

            Mewn ymateb, rhoddodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Tai sylw am hawlwyr credyd cynhwysol  ...  view the full Cofnodion text for item 22