Mater - cyfarfodydd
Overview & Scrutiny Annual Report
Cyfarfod: 25/10/2017 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 11)
11 Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu PDF 72 KB
Ymgynghori â’r pwyllgor yngl?n â'r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft cyn ei gyflwyno i’r Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft ar gyfer 2016/17 i’w ystyried. Dosbarthodd ragair a awgrymwyd ar gyfer yr adroddiad, fel teyrnged i’r diweddar Gynghorydd Ron Hampson fel y Cadeirydd pwyllgor a wasanaethodd am y cyfnod hiraf, a siaradodd Aelodau o’i blaid.
Yn dilyn awgrymiadau gan y Cynghorydd Mike Peers, cytunwyd i ymgorffori rhagymadrodd yn yr adroddiad yn rhoi manylion yngl?n â sut y gellir cyflwyno eitem i’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Yn yr adran ar gyfarfodydd galw i mewn, byddai cyfeiriad at gynnwys y bleidlais bwyllgor ar y dewisiadau oedd ar gael.
Yn Atodiad 1 yr adroddiad, cwestiynodd y Cynghorydd Chris Bithell gywirdeb rhai o’r dyddiadau aelodaeth y cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd eu diwygio yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD:
(a) Cynnwys y rhagair a awgrymwyd yn yr Adroddiad Blynyddol; a
(b) Bod y Pwyllgor, yn amodol ar y diwygiadau a gynigiwyd gan y Cynghorwyr Bithell a Peers, yn rhoi cymeradwyaeth i gyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor yn y cyfarfod nesaf.