Mater - cyfarfodydd
Income Generation Policy
Cyfarfod: 24/10/2017 - Cabinet (eitem 69)
69 Polisi Cynhyrchu Incwm PDF 93 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad Polisi Cynhyrchu Incwm, a argymhellodd nifer o amcanion allweddol ac egwyddorion i gynorthwyo wrth osod ffioedd a thaliadau addas sydd wedi'u meincnodi, ynghyd â threfn o adolygu'n rheolaidd a monitro.
Esboniodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) y bu gofyniad hirsefydlog i ddatblygu Polisi a oedd yn dod â’r holl ffioedd a thaliadau ynghyd i un lle, yn ogystal ag adolygu eu dulliau o’u cyfrifo a’u cymhwyso. Roedd nifer o amcanion allweddol ac egwyddorion allweddol wedi’u nodi yn yr adroddiad er ystyriaeth.
Awgrymwyd y dylid cynnal gwaith monitro ffioedd a thaliadau drwy Fyrddau Rhaglenni’r Cyngor. Byddai mabwysiadu’r Polisi’n darparu’r fframwaith strategol a’r cysondeb i roi sylw i faterion ffioedd a thaliadau yn y Sir. Wrth eu mabwysiadu, byddai’r ffioedd a’r taliadau'n cael eu cynyddu. Gellir cael achosion lle byddai angen dull cynyddol fel bod modd adennill y gost lawn dros gyfnod hirach o amser, oherwydd y bwlch sylweddol rhwng yr adenilliad o'r gost lawn a’r taliadau.
Roedd targed incwm cylchol o £500,000 wedi’i osod ond nid yn cael ei gyflawni. Byddai’r gallu i gyflawni’r targed yn parhau, pe na bai dull mwy trylwyr a heriol yn cael ei fabwysiadu.
PENDERFYNWYD:
Nodi a chymeradwyo’r Polisi Incwm.