Mater - cyfarfodydd
Safeguarding Adults and Children
Cyfarfod: 16/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 30)
30 Diogelu - Oedolion a Phlant PDF 197 KB
I dderbyn adroddiad cynnydd ar ddiogelu a materion cyfredol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i ddarparu gwybodaeth am ddarpariaeth Diogelu Oedolion a Phlant ar y Cyd o fewn ffiniau’r sir. Soniodd am lwyddiant yr Uned Ddiogelu a dywedodd fod yr adroddiad wedi’i lunio yn y fformat newydd eleni, gan ddod â gwybodaeth am ddiogelu oedolion a phlant ynghyd i hysbysu Aelodau o wybodaeth ystadegol allweddol a gwybodaeth am berfformiad y plant ac oedolion mewn perygl, y mae’r Awdurdod yn gyfrifol am eu diogelu. Ychwanegodd fod yr adroddiad o gymorth i gyfuno gwasanaethau a thaflu goleuni ar wasanaethau megis Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Gwahoddodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu i gyflwyno’r adroddiad.
Darparodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu, wybodaeth gefndirol. ac fe adroddodd ar y prif ystyriaethau, manylwyd arnynt yn yr adroddiad, o ran Diogelu Plant, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, Diogelu Oedolion ac Oedolion Mewn Perygl. Adroddodd hefyd ar y rolau a chyfrifoldebau allweddol ar draws bortffolio’r Uned Ddiogelu a Diogelu Corfforaethol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu fod lleoliadau y tu allan i’r sir o fewn cylch gwaith yr adroddiad. Hefyd, er nad oedd Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, gellid ystyried eu cynnwys mewn adroddiadau eraill yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill pam fod nifer y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn cynyddu, sut oedd y costau cynyddol yn cael eu hariannu, a phwy fyddai'n ariannu'r gofal nyrsio pe bai’r asesiad yn arddangos yr angen am lefel uwch o ofal.Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r Awdurdod yn gwneud cyfraniad bychan rhwng £5,000 - £10,000 i ariannu Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid. Byddai hyn yn costio oddeutu £250,000 y flwyddyn i’r Awdurdod ac roedd yn bwysau heb ei ariannu. Byddai'r costau ychwanegol ar gyfer lefel uwch o ofal yn cael eu hystyried fesul achos gydag arian Gofal Iechyd Parhaus mewn rhai achosion.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan y Cynghorydd Hilary McGuill, cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu nad oedd terfyn amser ar ba mor hir y gall plentyn aros ar y Gofrestr Amddiffyn Plant hyd at 18 oed. Dywedodd nad oedd plant yn cael eu cadw ar y Gofrestr am fwy o amser nag oedd angen a’r amser ar gyfartaledd oedd 12 i 14 mis.
Gofynnodd y Cynghorydd Ian Smith pwy oedd yn penderfynu a oedd asesiad Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn briodol. Cadarnhaodd Swyddogion mai’r darparwr oedd yn gwneud cais am Asesiad Lles Gorau.
Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes pa drefniadau oedd yn eu lle i ddelio ag achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant a chamfanteisio’n rhywiol ar-lein. Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu fod gan Sir y Fflint Banel Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a oedd yn gweithio’n agos gyda Thîm ONYX yr Heddlu. Dywedodd hefyd fod gwaith yn mynd rhagddo mewn ysgolion a bod Sir y Fflint yn arweiniol yn y maes hwn o waith, sef Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant, a bod siroedd eraill yn dilyn ein hesiampl.
Mewn ymateb i ... view the full Cofnodion text for item 30