Mater - cyfarfodydd
National Adoption Service and North Wales Adoption Service Annual Reports 2016-2017
Cyfarfod: 05/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 21)
Pwrpas: Galluogi Aelodau i adolygu cynnydd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a’r Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - National Adoption Service Annual Report 2016/17, eitem 21 PDF 3 MB
- Appendix 2 - North Wales Adoption Service Annual Report 2016/17, eitem 21 PDF 705 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth (Adnoddau) yr adroddiadau ar weithgarwch mabwysiadu cenedlaethol a rhanbarthol yn 2016-17 ynghyd ag amcanion ar gyfer 2017-18. Fel swyddog arweiniol y Cyngor ar fabwysiadu, amlygodd yr effaith roedd y broses fabwysiadu'n ei chael ar bobl drwy gydol eu hoes.
Roedd nifer o heriau a chamau gweithredu allweddol wedi'u nodi o'r adroddiadau gan gynnwys yr angen am lawer o gymorth ar ôl mabwysiadu i fabwysiadwyr plant ag anghenion cymhleth. Roedd canfyddiadau’r adroddiad rhanbarthol yn dangos nifer isel o leoliadau amharedig, a oedd yn adlewyrchu dull rhagweithiol Sir y Fflint.
Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a allai canolbwyntio ar fywyd y plentyn cyn ei fabwysiadu, o bosibl’, gael effaith niweidiol ar yr unigolyn a'r rhai sy'n mabwysiadu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod tystiolaeth, yn gyffredinol, yn dangos ei bod yn bwysicach i blant ddeall hanes eu bywyd a bod y gwasanaeth yn ymrwymo i weithio gyda mabwysiadwyr i'w helpu i gydymdeimlo â'r profiad hwnnw wrth i'r plentyn dyfu'n h?n. O ran plant mabwysiedig yn dymuno cysylltu â'u brodyr a'u chwiorydd, roedd hwn yn fater sensitif sy'n fwy heriol oherwydd y cyfryngau cymdeithasol.
Teimlai’r Cynghorydd Kevin Hughes y gallai'r lluniau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad cenedlaethol fod wedi cynnwys cynrychiolaeth ehangach o gefndiroedd ethnig. Soniodd Rheolwr y Gwasanaeth am y dull blaengar roedd y gwasanaeth yn ei ddefnyddio i adnabod anghenion plant wedi'u mabwysiadu.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Gladys Healey, eglurodd Rheolwr y Gwasanaeth, er nad oedd unrhyw gyfyngiadau ar oed mabwysiadwyr posib', bod nifer o ffactorau'n cael eu hystyried er mwyn diwallu anghenion pawb a oedd ynghlwm. Dywedodd bod nifer o fabwysiadwyr yn ffafrio merched iau na 3 oed ac y byddai’n darparu manylion plant a oedd ar y rhestr aros ar hyn o bryd.
Gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman yngl?n â hanes meddygol teulu biolegol y plentyn a dywedwyd wrthi bod hyn yn cael ei ystyried yn rhan o’r broses fabwysiadu i gynorthwyo ag unrhyw broblemau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad blynyddol ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol; a
(b) Nodi’r adroddiad blynyddol ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru.