Mater - cyfarfodydd
Welsh Government Consultation Paper Electoral Reform in Local Government in Wales
Cyfarfod: 27/09/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 40)
40 Papur Ymgynghori Llywodraeth Cymru Diwygio Etholiadol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru PDF 113 KB
Pwrpas: Gwahodd y Cyngor i lunio ymateb i bapur ymgynghori Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Electoral Reform White Paper, eitem 40 PDF 619 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Papur Ymgynghori Llywodraeth Cymru Diwygio Etholiadol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Bapur Ymgynghori Llywodraeth Cymru Diwygiad Etholiadol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Rhoddodd sylwadau ar y meysydd a gwmpaswyd yn y papur ymgynghori ar:
· Yr hawl i bleidleisio;
· Cofrestru;
· Y system bleidleisio;
· Y broses bleidleisio;
· Sefyll mewn etholiad; a
· Swyddogion Canlyniadau
Rhoddodd y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar y cynnig i gael gwared ar gyfeiriad yr ymgeiswyr. Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai Aelodau ddatgelu ym mha ward maent yn byw o’i gymharu â’u cyfeiriad pe bai'r cynnig yn cael ei weithredu, ac y byddai’n awgrymu fod hyn yn dod yn weithredol o ran y gwasgnod statudol ar gyfer deunyddiau wedi eu cyhoeddi pe bai’r ymgeisydd yn hunan hyrwyddo eu hunain heb hyrwyddwr ar wahân.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am eglurhad ar dudalen 344, Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, a’i bod yn system etholiadol ffafraethol, a holodd a oedd modd cadarnhau hyn. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod hyn yn golygu bod y dewis cyntaf a’r ail ddewis yn cael ei ddynodi gan yr etholydd. Roedd y Cyngor yn cael ei gynghori i wrthwynebu datganoli’r dewis o ran y system bleidleisio i gynghorau unigol, ac nid yr egwyddor o'r system bleidleisio.
Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr, byddai copi ar gael ar ôl i'r ymateb gael ei gwblhau.
PENDERFYNWYD:
Gwneud yr ymateb arfaethedig i’r papur ymgynghori.