Mater - cyfarfodydd
Welsh in the Workplace Policy
Cyfarfod: 19/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 33)
33 Polisi’r Gymraeg yn y Gweithle PDF 93 KB
Derbyn Polisi Cymraeg yn y Gweithle'r Cyngor a nodi cynnydd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Bolisi Drafft Y Gymraeg yn y Gweithle cyn gofyn i'r Cabinet ei fabwysiadu. Roedd yr ymrwymiadau yn y polisi yn adlewyrchu gofynion cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac roeddent yn gymesur i Sir y Fflint.
Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau, fodd bynnag roedd Aelodau’n gallu cyflwyno arsylwadau trwy e-bost at y Prif Weithredwr cyn i’r Cabinet ystyried y mater.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn sicrhau fod gwaith yn cael ei wneud i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg;
(b) Bod Polisi’r Gymraeg yn y Gweithle yn cael ei nodi; a
(c) Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau blynyddol ar waith a wnaethpwyd i gyflawni Safonau’r Gymraeg.