Mater - cyfarfodydd
Review of the Winter Maintenance Policy
Cyfarfod: 19/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 28)
28 Adolygu'r Polisi Cynnal yn y Gaeaf PDF 114 KB
Pwrpas: Ceisio argymhelliad Craffu ar gyfer cymeradwyo’r Polisi Cynnal yn y Gaeaf diwygiedig sy’n cynnwys manylion ymateb y Cyngor yn ystod digwyddiadau tywydd anffafriol eraill mewn argyfwng.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Revised Winter Maintenance Policy, eitem 28 PDF 4 MB
- Appendix 2 - Sandbag Distribution Policy, eitem 28 PDF 64 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr Rhwydwaith y Priffyrdd adroddiad diweddaru ar newidiadau arfaethedig i'r Polisi Cynnal yn y Gaeaf, ynghyd â manylion ymateb y sir i amodau tywydd anffafriol, gan geisio cymeradwyaeth y Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod newydd i gael ei weithredu yn ystod cyfnodau o law trwm neu ddigwyddiadau eraill o lifogydd. Yn ystod y cyflwyniad, crynhowyd dyletswyddau statudol y Cyngor a chafodd y manylion eu rhannu ar drefniadau gweithredu gwasanaeth y gaeaf.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Paul Shotton, esboniodd y Rheolwr fod y Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod wedi ei ddatblygu i alluogi ymateb rhanbarthol cyson oherwydd y posibilrwydd o lifogydd i ardaloedd trawsffiniol. Roedd trafodaethau’n cael eu cynnal ar gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Cwestiynodd y Cynghorydd Haydn Bateman y gwariant ar gyfer 2016/17 ac fe’i hysbyswyd bod hyn yn adlewyrchu cynnydd yn y nifer o alwadau am halen ar nosweithiau rhewllyd, yn hytrach na digwyddiadau o eira. Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai gwybodaeth ar y nifer o alwadau i fynd allan dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn cael ei rhannu gyda’r Pwyllgor. Yn dilyn awgrymiad gan y Cynghorydd Bateman, cytunwyd y byddai trefniadau’n cael eu gwneud i’r Pwyllgor edrych ar un o'r cerbydau fflyd graeanu newydd yn Neuadd y Sir.
Canmolodd y Cynghorydd Owen Thomas y gwasanaeth ond tynnodd sylw at yr effaith ar ffyrdd gwledig pe bai erydr eira yn cael eu hatal wrth ymateb i ddigwyddiadau eira. Cytunodd y Rheolwr i drosglwyddo’r sylw hwn i’r Swyddog ar Ddyletswydd ac esboniodd fod ffyrdd yn cael eu blaenoriaethu. Dywedodd fod y Cyngor yn gallu galw ar nifer o gontractwyr amaethyddol ac y byddai'n dosbarthu manylion y rhai a elwir allan dros gyfnod o 3 blynedd.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Veronica Gay, rhoddodd swyddogion nodyn atgoffa am y trefniadau cytûn ar y cyd ar gyfer llety gwarchod yn cynnwys Strydwedd a Thai.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn argymell cymeradwyaeth y Polisi Cynnal yn y Gaeaf diwygiedig (2017-19) – Atodiad 1 a’r gweithdrefnau a gynhwysir yn hynny o beth ar gyfer darparu'r gwasanaeth cynnal yn y gaeaf; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi manylion ymateb y sir i ddigwyddiadau o dywydd anffafriol ac yn argymell cymeradwyo'r Polisi Dosbarthu Bagiau Tywod newydd – Atodiad 2.