Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 20/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 14)
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 19 Gorffennaf 2017.
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2017.
Materion yn codi
Gan gyfeirio at dudalen 2 o’r cofnodion, gofynnodd y Cynghorydd Ron Davies bod ei ddiolch yn cael eu hanfon ymlaen at y swyddogion a roddodd wybodaeth iddo am waith cyfalaf sy'n cael ei gynnal yn ei Ward yn fuan wedi'r cyfarfod. Cytunodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) y byddai’n anfon ei ddiolchiadau i Reolwr Gwasanaethau Tai'r Cyngor i’w cyfleu i’r tîm.
Gan gyfeirio at dudalen 5 o’r cofnodion, mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bryder ynghylch y grisiau cul yn Castle Heights, Y Fflint, a gofynnodd bod y mater yn cael sylw i sicrhau y gallai'r holl breswylwyr adael yr adeilad yn ddiogel os bydd yna argyfwng. Fe eglurodd y Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf bod y broses gwagio mewn tyrau o fflatiau yn y Fflint yn cael eu hadolygu ac y byddai adroddiad diweddaru manwl yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.