Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2017/18 (OUTTURN)
Cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet (eitem 212)
212 MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (ALLDRO) PDF 150 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2017/18 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 12 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid yr adroddiad yngl?n â Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Canlyniadau) a oedd yn cyflwyno’r sefyllfa o ran monitro canlyniadau cyllideb refeniw 2017/18 (yn amodol ar archwilio), gan gynnwys Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Hon oedd y sefyllfa derfynol ddiwedd y flwyddyn:
Cronfa’r Cyngor
· Y canlyniad o fewn y flwyddyn oedd gwarged gweithredol net o £0.685 miliwn;
· Roedd y canlyniad cyffredinol yn cynnwys hwb o £1.422 miliwn oherwydd newid y polisi cyfrifo ar gyfer Darparu Isafswm Refeniw fel y penderfynodd y Cyngor Sir ar 1 Mawrth 2018. Effaith hynny oedd cynyddu’r gwarged gweithredol, a bod gwariant net £2.107 miliwn yn llai na’r gyllideb; a
· Balans y Gronfa Wrth Gefn at Raid 31 Mawrth 2018 Oedd £7.928 miliwn, ond lleihaodd hynny i £5.523 miliwn wrth ystyried y cyfraniadau y cytunwyd arnynt ar gyfer cyllideb 2018/19.
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Roedd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.004 miliwn yn uwch na’r gyllideb; ac
· Roedd balans terfynol heb ei neilltuo o £1.116 miliwn ar 31 Mawrth 2018.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y ceisiadau i gario cyllid ymlaen.
Esboniodd y Prif Weithredwr y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Roedd y Pwyllgor Archwilio hefyd wedi derbyn y Datganiad Cyfrifon drafft. Derbyniodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr adroddiad, gan nodi’r effaith a gafodd Darparu Isafswm Refeniw ar y gyllideb. Gwnaethpwyd sylwadau hefyd yngl?n ag effaith cael cadarnhad o grantiau’n hwyr, ac roedd y Pwyllgor wedi gofyn am anfon llythyr i Lywodraeth Cymru'n esbonio'r risgiau; roedd y llythyr hwnnw'n cael ei ddrafftio.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn oedd yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018;
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau ar y Cyfrif Refeniw Tai ar 31 Mawrth 2018; a
(c) Chymeradwyo’r ceisiadau i gario cyllid ymlaen.