Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2017/18 (MONTH 6)

Cyfarfod: 21/11/2017 - Cabinet (eitem 89)

89 MONITRO CYLLIDEB REFENIW 2017/18 (MIS 6) pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Darparu’r sefyllfa fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 6 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 6) a oedd yn darparu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, gan ragamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

            Dyma ragamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn, heb unrhyw fesur lliniaru i ostwng pwysau costau a gwella'r arenillion ar gynllunio arbedion:

 

Cronfa’r Cyngor

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn yn £1.147 miliwn yn fwy na’r gyllideb; a

·         Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn ar 31 Mawrth 2018 yn £3.935 miliwn.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelir y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn yn £0.035 miliwn yn fwy na’r gyllideb; a

·         Rhagamcanir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2018 yn £1.081 miliwn.

Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn fesul portffolio; olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol, roedd sylwadau wedi eu gwneud ar (1) yr angen i gael eglurder ar yr iaith a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad ar orwariant a thanwariant; a (2) y tanwariant ar y Cynllun Lleihau Treth y Cyngor, ymchwiliad yn cael ei gynnal ac ailfodelu dyraniad y gyllideb os oedd angen.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Thomas sylwadau ar y cynnydd annisgwyl mewn  Goleuadau Stryd a oedd wedi cael effaith ar y gyllideb, fel y gostyngiad yn y Grant Amgylcheddol Sengl.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y sylwadau a wnaed ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd yn ddiweddar yngl?n â'r sefyllfa o orwariant a oedd yn dangos yr heriau yr oedd yr awdurdod yn eu hwynebu ac yr oedd angen i holl aelodau'r Cyngor eu deall.

 

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer

Cronfa’r Cyngor ar  31 Mawrth 2018; a

 

             (b)      Nodi'r lefel terfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.