Mater - cyfarfodydd

Social Housing Grant (SHG) Programme

Cyfarfod: 20/09/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 17)

17 Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol pdf icon PDF 93 KB

Ystyried y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol arfaethedig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Strategaeth Tai adroddiad ar raglen presennol Grant Tai Cymdeithasol sydd yn ariannu ystod o dai fforddiadwy sy’n cael eu darparu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Sir y Fflint.

 

                        Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom, dywedodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) bod holl gynlluniau adeiladu tai y Cyngor yn cael eu hariannu’n llawn gan y Cyngor ar hyn o bryd a bod yna achos cryf y dylai'r Cyngor gael mynediad at gyllid grant ac i'r terfyn ar gyllid gael ei dynnu er mwyn cael gweithredu’n gyfartal rhwng y Cyngor a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn Sir y Fflint.    

 

            PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Rhaglenni Grant Tai Cymdeithasol Sir y Fflint