Mater - cyfarfodydd
Emergency Planning Annual report
Cyfarfod: 19/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 29)
29 Adroddiad Blynyddol Cynllunio Rhag Argyfwng PDF 84 KB
Pwrpas: Darparu adolygiad o waith y Gwasanaethau Cynllunio Rhag Argyfwng.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar drefniadau cynllunio at argyfwng rhanbarthol a gwahoddodd y Rheolwr Rhanbarthol i roi cyflwyniad yngl?n â’r meysydd canlynol:
· Cefndir
· Trosolwg o’r gwasanaeth
· Gweithgareddau rhanbarthol
· Trosolwg o Sir y Fflint
· Gweithgareddau diweddar yn Sir y Fflint
· Gweithgarwch yn y dyfodol
Roedd y gwasanaeth rhanbarthol cwbl integredig a gynhelir gan Sir y Fflint ac roedd yn gysylltiedig â’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth a oedd yn cynnwys ymatebwyr Categori 1 a 2, a gynhelir gan Heddlu Gogledd Cymru. Roedd y model cost effeithlon a chryf a weithredir gan y gwasanaeth yn unigryw yng Nghymru ac roedd yn cael ei weld fel arfer da gan ardaloedd eraill. Cafwyd diweddariad ar weithgareddau rhanbarthol i gryfhau trefniadau, ynghyd â chynnydd ar drefniadau mewnol y Cyngor gan gynnwys golwg cyffredinol o'r Tîm Ymateb Rheoli Argyfwng.
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Patrick Heesom, esboniodd y Rheolwr Rhanbarthol fod gwaith yn cael ei arwain gan risg a chytunodd siarad â’r Cynghorydd Heesom ar wahân yngl?n â threfniadau arian at raid i safle masnachol dosbarthol ym Mostyn. Siaradodd hefyd am y cyfle i gynnig gwasanaethau cadernid masnachol i fusnesau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at fethiant y system ffonau i ymdopi â’r galw yn ystod tywydd garw diweddar a holodd yngl?n â chamau ataliol. Rhannodd y Prif Weithredwr bryderon am y nam dros dro hwn a sicrhaodd fod camau dilynol yn cael eu cymryd. Dywedodd fod cynlluniau parhad busnes yn cael eu profi ac y byddai’n darparu mwy o wybodaeth ar ddyddiad diweddarach.
Rhoddodd y Rheolwr Rhanbarthol a’r Prif Weithredwr eglurhad i’r Cynghorydd Haydn Bateman yngl?n â gweithdrefnau profi larymau a threfniadau cyfathrebu mewn cysylltiad â ffatri Synthite gerllaw.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Paul Cunningham a Paul Johnson, rhoddwyd esboniad am y gweithdrefnau a threfniadau profi gyda Network Rail fel ymatebwr Categori 2.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y diweddariad yn darparu sicrwydd i’r Pwyllgor; a
(b) Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiadau yn y dyfodol ar barodrwydd y Cyngor i gynllunio at argyfyngau ac adroddiadau dilynol penodol i unrhyw ddigwyddiadau brys mawr lleol neu ranbarthol y mae gofyn i’r Cyngor ymateb iddynt.