Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 10)

Cyfarfod: 15/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 75)

75 Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 10) pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis  10) i’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad i ddarparu adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 10). Dywedodd bod yr adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ar 23 Ionawr 2018 ac ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid bod yr adroddiad misol yn darparu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym mis 10 y flwyddyn ariannol ac yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid ar ragamcan o'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai fel y manylwyd yn yr adroddiad. Adroddodd hefyd ar y prif ystyriaethau o ran y sefyllfa ym Mis 10 a chyfeiriodd at sefyllfa gyffredinol Cronfa’r Cyngor, y rhagamcanion diweddaraf yn ystod y flwyddyn, olrhain risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn, cynnal a chadw yn y gaeaf, chwyddiant, arian wrth gefn a balansau. Dywedodd y Rheolwr Cyllid, o ran Cronfa'r Cyngor, fod balans y gronfa hapddigwyddiad ar 31 Mawrth 2018 yn £8.119m er y gostyngodd hyn i £5.714m wrth ystyried y cyfraniadau a gytunwyd ar gyfer cyllideb 2018/19. Dywedodd fod y balans cloi a ragamcanir ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai ar 31 Mawrth 2018 yn £1.081m.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n ag arbedion effeithlonrwydd i’w cyflawni yn 2017/18, darparodd y Prif Weithredwr ddiweddariad o ran y sefyllfa bresennol. Rhoddodd sylw hefyd i ddau achos o bwysau annisgwyl ar y gyllideb yn 2017/18 a 2018/19:- y pwysau ar y gyllideb cynnal a chadw yn y gaeaf, a Llywodraeth Cymru’n tynnu’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig o oddeutu £175K yn ei ôl (o 2018/19) a oedd yn cefnogi Saesneg fel Ail Iaith ac anghenion dysgu teithwyr.

 

Mewn perthynas â’r mater o gynnal a chadw’r gaeaf, gofynnodd y Cadeirydd a oedd modd i’r Awdurdod adennill y costau graenu priffyrdd. Eglurodd Swyddogion bod y gost o raenu’r A55 yn adenilladwy.

 

Wrth wneud sylw ar reoli risgiau a materion sy'n dod i'r amlwg, awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones y dylid lobïo Llywodraeth Cymru i ddarparu ffynhonnell ganolog o gyllid yn hytrach na phob awdurdod lleol yn gorfod ymdopi ar eu pen eu hunain. Diolchodd i bawb am eu hymdrechion yn ystod y broses o osod y gyllideb a arweiniodd at ryddhau mwy o arian i gefnogi ysgolion.

 

Ail-bwysleisiodd y Cynghorydd Jones ei wrthwynebiad i’r newid ym mholisi cyfrifo i Isafswm Darpariaeth Refeniw. Sicrhaodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor fod penderfyniad y Cyngor yngl?n ag Isafswm Darpariaeth Refeniw wedi’i wneud yn seiliedig ar y cyngor a gafwyd.

 

Wrth gyfeirio at yr ail argymhelliad ar dudalen 42 yr adroddiad, ceisiodd y Cynghorydd Woolley sicrwydd bod gan yr Awdurdod drosolwg da i sicrhau bod unrhyw broblem ariannol yn cael ei chanfod cyn gynted â phosibl mewn perthynas â gweithrediad dulliau darparu gwasanaeth gwahanol. Dywedodd y Prif Weithredwr fod Aura a NEWydd yn cwblhau  ...  view the full Cofnodion text for item 75