Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 9 )
Cyfarfod: 15/02/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 69)
69 Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 9) a Rhaglen Gyfalaf 2017/18 (Mis 9) PDF 70 KB
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 9) i’r Aelodau. Darparu gwybodaeth diwedd Mis 9 (diwedd Rhagfyr) rhaglen gyfalaf 2017/18 i Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Cabinet report on Revenue Budget Monitoring, eitem 69 PDF 1 MB
- Enc. 2 - Cabinet report on Capital Programme Monitoring, eitem 69 PDF 531 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar y sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/8 fel yr oedd ym mis 9 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT), a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cabinet.
Monitro’r Gyllideb Refeniw
O ran Cronfa’r Cyngor, y rhagolygon o safbwynt y sefyllfa net yn y flwyddyn oedd y byddai’n £0.908m yn uwch na’r gyllideb, sef cynnydd o £0.062m o Fis 8. Roedd y rhesymau dros yr amrywiadau rhagamcanol wedi eu nodi yn yr adroddiad. Rhagamcanwyd y byddai 94% o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn y flwyddyn yn cael eu gwireddu.
O ran olrhain risgiau yn y flwyddyn a materion sy’n dod i’r amlwg roedd gwaith i asesu’r effaith ar gyllideb 2018/19 wedi ei adrodd i’r Cabinet ym mis Ionawr ac wedi ei gynnwys mewn cynigion cyllidol i’w cyflwyno i’r Cyngor Sir ar 20 Chwefror. Tynnwyd sylw at y risg i gyllideb cynnal a chadw’r gaeaf yn dilyn y tywydd garw diweddar
Ar y CRT, rhagamcanwyd y byddai’r gwariant yn y flwyddyn £0.035m yn is na’r gyllideb, gan adael balans diwedd blwyddyn o £1.081m (yn uwch na’r lefel isaf a argymhellir).
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar yr adolygiad o gronfeydd lle’r oedd gwaith yn tynnu at y terfyn. Dywedodd fod yr holl feysydd wedi’u hadolygu – nid dim ond y rhai hynny yr oedd y Pwyllgor wedi’u hadnabod –a bod cymhlethdodau o ran olrhain er mwyn sefydlu telerau a deall yr ymrwymiadau o ran proffiliau gwariant. Rhoddodd grynodeb o statws a phwrpas pedwar maes y cronfeydd (sylfaenol, wrth gefn, wedi’u clustnodi a heb eu clustnodi) ac roedd yn hyderus fod lefel ddigonol o gronfeydd defnyddiadwy i gefnogi sefyllfa’r gyllideb yn 2018/19.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai canlyniad yr adolygiad – a oedd yn destun manwl gywirdeb a her – yn cael ei adrodd i’r Cabinet. Yr argymhelliad fyddai cefnogi rhyddhad darbodus rhai cronfeydd, gan gadw eraill i liniaru risg yn y dyfodol. Byddai’r adroddiad i’r Cabinet a’r Cyngor Sir yn dweud mai’r defnydd o gronfeydd a chynnydd yn Nhreth y Cyngor yw’r unig opsiynau ar ôl i fantoli’r gyllideb. Roedd yr her i gyllid ysgolion i dalu’n rhannol am bwysau cyflogau a chostau chwyddiant yn cael ei ystyried yn faes i risg sydd yn flaenoriaeth.
Dywedodd Cynghorydd Shotton ei bod yn deg herio cronfeydd wedi’u clustnodi nad ydynt wedi’u defnyddio ac y dylid ffurfio barn gytbwys ar lefel y risg cysylltiedig â phob cronfa
Croesawodd Cynghorydd Jones y gwaith ar yr adolygiad ac roedd yn derbyn nad oedd herio cronfeydd heb ei risg. Roedd yn teimlo fod materion eraill yn y gyllideb yn bwysicach ac y dylai’r Pwyllgor asesu ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a oedd cronfeydd wedi’u clustnodi yn angenrheidiol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.
Mewn ymateb i gwestiynau, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar gynnydd y Cytundeb Statws Sengl a’r gronfa ddal, lle’r oedd gwaith bron wedi’i gwblhau.
Gofynnodd y Cynghorydd Peers, a oedd yn bresennol yn y galeri cyhoeddus, ynghylch y posibilrwydd o ... view the full Cofnodion text for item 69