Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 8)
Cyfarfod: 18/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 61)
61 Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 8) PDF 68 KB
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 8) i’r Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ym Mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.
Ar Gronfa’r Cyngor, y sefyllfa net flynyddol disgwyliedig (heb ei liniaru i leihau pwysau costau a gwella’r cynnyrch ar gynllunio effeithlonrwydd) oedd bod disgwyl gwario £0.846 miliwn yn uwch na’r gyllideb, yn adlewyrchu lleihad o £0.416 miliwn yn Mis 7. Yr amrywiaethau mwyaf sylweddol disgwyliedig oedd llai o wario ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Cyngor lle fyddai’r angen yn parhau i gael ei fonitro, ac amrywiad positif ar gronfa gasglu Treth y Cyngor oherwydd diwedd y gwaith ar adolygiad Disgownt Person Sengl. Adroddwyd cynnydd sylweddol yn nhanwariant Cyllid Corfforaethol a Chanolog, yn bennaf oherwydd lleihad yng nghostau pensiwn y flwyddyn.
Amcangyfrifwyd y byddai 94% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd effaith posib hyn ar gyllideb 2018/19 yn cael ei fonitro’n agos, ynghyd â nifer o risgiau newydd yn ymddangos yn ystod y flwyddyn megis y defnydd posib o gronfeydd wrth gefn o’r gyllideb cynnal a chadw, yn amodol ar amodau’r tywydd.
Dangosodd diweddariad ar gronfeydd a gweddillion gwerth £4.236 miliwn o gronfeydd arian at raid yn ddisgwyliedig erbyn diwedd y flwyddyn.
Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagamcanwyd y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.035m yn is na’r gyllideb, gan adael balans o £1.081 ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.
Gofynnodd Aelodau bod eu diolch yn cael ei fynegi i dimau Strydwedd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith yn ystod y tywydd gwael diweddar.
Fel y trafodwyd yn flaenorol, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i sicrhau bod y ffigwr mewn bracedi coch yn cael ei ailosod ar gyfer tanwariant mewn adroddiadau monitro cyllid yn y dyfodol. Cytunodd hefyd i ddarparu eglurhad ar ffioedd Rheoli Plâu ac Anifeiliaid yn Atodiad 3 yr adroddiad Cabinet, fel y gofynnodd y Cynghorydd Johnson.
Mynegodd Aelodau eu pryderon yngl?n â gorwario parhaus ar Leoliadau Tu Allan i’r Sir a gofynnwyd i'r mater gael ei atgyferio at ystyriaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Crynhodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y penderfyniad, fel y cytunwyd gan Aelodau, a byddai’n cynghori’r Arweinydd a’r swyddogion statudol dros neges e-bost, gan anfon copi at y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Mis 8 Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 a chadarnhau ar yr achlysur hwn bod y materion sydd angen sylw’r Cabinet yn bryderon ar orwariant ar leoliadau Tu Allan i’r Sir, fel y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1.05 ac 1.06 yr adroddiad Cabinet.