Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme (Organisational Change)

Cyfarfod: 25/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 14)

14 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg newid sefydliadol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried. Tynnodd sylw at yr eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 17 Medi, a gofynnodd i Aelodau anfon unrhyw awgrymiadau am eitemau yr oeddent yn dymuno eu hychwanegu at y Rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod.  

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Tudor Jones am ddiweddariad ar y trosglwyddiadau ased "llai" dywedodd y Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor a fyddai'n cael ei gynnal ar 17 Medi, i ddarparu diweddariad ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y cafodd ei chyflwyno, yn cael ei chymeradwyo; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os oes angen.