Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme (Organisational Change)

Cyfarfod: 19/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 48)

48 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol er mwyn iddi gael ei hystyried gan y Pwyllgor. Dywedodd y byddai’n rhannu manylion y rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod ar ôl i ddyddiadau cyfarfodydd y pwyllgor gael eu cymeradwyo yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 1 Mai.

 

Tynnodd yr Hwylusydd sylw at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 14 Mai 2018, a’r eitemau a oedd wedi’u dynodi i gael eu hystyried yng nghyfarfodydd y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n cysylltu â’r Cadeirydd, yn dilyn y cyfarfod, i bennu eitemau a restrwyd o dan ‘eitemau i’w trefnu’ ar gyfer dyddiadau addas cyfarfodydd y dyfodol. 

 

 PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a gyflwynwyd; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd neu’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu, mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd yn ôl yr angen.