Mater - cyfarfodydd

Treasury Management 2018/19 Strategy and Quarter 3 Update 2017/18

Cyfarfod: 24/01/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 44)

44 Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2018/19 a Diweddariad Chwarter 3 2017/18 pdf icon PDF 150 KB

1.01 Cyflwyno Strategaeth Rheoli Trysorlys drafft ar gyfer 2018/19 i’r Aelodau a’i argymell ar gyfer cymeradwyaeth y Cabinet.

 

1.02 Rhoi diweddariad ar faterion sy’n ymwneud a Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli Trysorlys y Cyngor at ddiwedd mis Rhagfyr 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid – Cyfrifeg Dechnegol Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2018/19 ddrafft i’w hadolygu a’i thrafod, gan geisio argymhelliad i’r Cabinet. Gwahoddwyd pob Aelod i sesiwn hyfforddiant ym mis Rhagfyr 2017 i baratoi ar gyfer cymeradwyo’r Strategaeth yn y Cyngor llawn yn nes ymlaen yn y mis. Yn ogystal, cyflwynwyd diweddariad Chwarter 3 ar faterion yn ymwneud â Pholisi, Strategaeth ac Arferion Rheoli’r Trysorlys 2017/18 y Cyngor er gwybodaeth.

 

Crynhodd yr adroddiad y prif newidiadau a gododd o’r diweddariad diweddar i’r ddau God Ymarfer gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA). Oherwydd yr amserlenni a’r ffaith nad oedd CIPFA eto wedi cyhoeddi arweiniad ymarferol i gyd-fynd â’r diweddariadau, argymhellodd ymgynghorwyr Rheoli’r Trysorlys (Arlingclose) fod y Cyngor wedi gosod ei Strategaeth 2018/19 gan ddefnyddio  fersiwn 2011 y Cod. Amlygwyd newidiadau allweddol o’r Strategaeth flaenorol, gan nodi bod Adran 4 (cyd-destun lleol) yn seiliedig ar waith yn y Rhaglen Gyfalaf ar hyn o bryd a allai fod yn destun newid cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet a’r Cyngor.

 

Yn ystod diweddariad ar Reoli’r Trysorlys 2017/18, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid at drafodaeth flaenorol ar MiFiD II (Marchnadoedd yn y Gyfarwyddeb Offerynnau Ariannol) a arweiniodd at gytundeb i’r Cyngor ddewis statws cleientiaid ‘proffesiynol’. Ers cyhoeddi’r adroddiad, cymeradwywyd y Cyngor i’r statws hwn gan 11 sefydliad ariannol ac roeddent yn aros am ymateb gan un arall.

 

Cyfeiriodd Sally Ellis at gyhoeddi canllawiau CIPFA, oedd yn ddisgwyliedig yn ail hanner y flwyddyn, a gofynnodd ynghylch y risgiau oedd yn codi yn sgil gweithredu’r newidiadau yn hwyr. Esboniodd y Rheolwr Cyllid fod Cod 2011 yn parhau i fod yn berthnasol. Er y gallai rhai paratoadau ddechrau, byddai’r goblygiadau ymarferol yn gofyn am ragor o drafod pan fyddai’r canllawiau ar gael, er enghraifft eglurder ar ddiffiniad ehangach ‘buddsoddiadau’. Roedd gan y Cyngor ddull da o droi at fesur y risgiau sy’n gysylltiedig â phenderfyniadau buddsoddi tymor hir ac roedd hi’n bwysig peidio â chael eu gorlethu â’r fframwaith risgiau petai gofynion y Cod yn cael eu bodloni. Gofynnodd Sally i ddiweddariad ychwanegol ar Reoli’r Trysorlys gael ei amserlennu yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Nid oedd y Prif Weithredwr yn disgwyl i’r newidiadau effeithio ar arferion oherwydd roedden nhw’n gyffredinol berthnasol i gofnodi a dosbarthu’r eitemau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Johnson ar newidiadau CIPFA, dehonglodd y Rheolwr Cyllid fod y rhain o gwmpas y mentrau masnachol cynyddol a gyflawnir gan y cynghorau yn Lloegr yn bennaf. O ran MiFiD II, rhoddodd wybodaeth am y sefydliadau ariannol rheoledig oedd yn ofynnol i roi cymeradwyaeth i statws proffesiynol y Cyngor a chytunodd rannu rhestr o’r sefydliadau hynny a fyddai’n cyd-fynd ag Arferion ac Amserlenni Rheoli’r Trysorlys.

 

Siaradodd y Cynghorydd Woolley am yr angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch cynlluniau ad-drefnu i lywodraeth leol. Gofynnodd a ad-dalwyd benthyciad o £1.6m yn ystod Chwarter 3 gan ddefnyddio cronfeydd presennol neu drwy fenthyca. Dywedodd y Rheolwr Cyllid  fod y penderfyniadau hynny’n cael eu penderfynu gan y sefyllfa ariannol ar y diwrnod yr oedd y benthyciad yn aeddfedu  ...  view the full Cofnodion text for item 44