Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Mid-Year Review 2017/18

Cyfarfod: 30/01/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 88)

88 Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2017/18 pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Cyflwyno i’r Aelodau yr Adroddiad Hanner Blwyddyn Rheoli Trysorlys drafft ar gyfer 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2017/18 i’w gymeradwyo.

 

            Cafodd yr adroddiad hwn ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar 22ain Tachwedd 2017 lle cafodd ei gymeradwyo i’r Cabinet.  Derbyniodd y Cabinet yr adroddiad ar 19eg Rhagfyr 2017 a chafodd ei gymeradwyo i’w argymell i’r Cyngor Sir.

 

Roedd newidiadau rheoleiddiol yn dod i rym yn y dyfodol agos, gyda’r prif newid yn digwydd i’r MiFID II (yr ail Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol) a fyddai’n dod i rym ar 3ydd Ionawr 2018.  Mae MiFID II yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael eu categoreiddio gan wasanaethau ariannol rheoledig fel cleientiaid cadw diofyn a allai “ddewis” bod yn gleientiaid proffesiynol, os byddant yn cyflawni meini prawf penodol.

 

Roedd y Cyngor wedi’i ddosbarthu fel cleient proffesiynol.  Er mwyn “dewis” a pharhau ei statws, mae’n rhaid i’r Cyngor gynnal balans buddsoddi o £10 miliwn o leiaf, a bod gan yr unigolyn a awdurdodwyd i wneud penderfyniadau buddsoddi o leiaf un flwyddyn o brofiad perthnasol.  Roedd swyddogion wedi ystyried yr effeithiau gwahanol o barhau i fod yn gleient proffesiynol neu newid i gleient manwerthu, ac argymhellwyd y dylai’r Cyngor gadw ei statws MiFID o gleient proffesiynol er mwyn parhau i reoli gweithgareddau rheoli trysorlys dyddiol y Cyngor, fel ar hyn o bryd.

           

PENDERFYNIAD:

 

(a)       Cymeradwyo Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys 2017/18; a

 

(b)       Cymeradwyo’r penderfyniad i ‘ddewis’ statws cleient proffesiynol gan gwmnïau gwasanaethau ariannol rheoledig o ganlyniad i’r ail Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Statudol (MiFID II).  Bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i barhau i reoli ei weithgareddau rheoli trysorlys, fel ar hyn o bryd.