Mater - cyfarfodydd
Prudential Indicators 2018/19 to 2020/21
Cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet (eitem 140)
140 Dangosyddion darbodus 2018/19 i 2020/21 PDF 129 KB
Pwrpas: Cyflwyno cynigion ar gyfer gosod ystod o Ddangosyddion Darbodus yn unol â'r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus).
Cofnodion:
Bu i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyno adroddiad Dangosyddion Darbodusrwydd 2018/19 i 2020/2021 sy’n rhoi manylon am Ddangosyddion Darbodusrwydd mewn perthynas â Darbodusrwydd a Fforddiadwyedd.
Yn Nhabl 1 eglurodd y dylai’r amcangyfrif ar gyfer Cronfa’r Cyngor 2018/19 fod yn £23.773m ac nid £30.408m, ac y dylai’r amcangyfrif ar gyfer Cronfa’r Cyngor 2019/2020 fod yn £13.659m ac nid £1.644m.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo ac argymell y canlynol i’r Cyngor ar gyfer eu cymeradwyo:
· Dangosyddion Darbodusrwydd ar gyfer 2018/19 - 2020/21; a
· Awdurdod dirprwyedig y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i achosi newid rhwng y cyfyngiadau cytunedig ar wahân o fewn y cyfyngiad awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol.