Mater - cyfarfodydd

Minimum Revenue Provision - 2018/19 Policy

Cyfarfod: 01/03/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 115)

115 Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2018/19 pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas: I gyflwyno argymhellion y Cabinet i’r Cyngor i isod Isafswm Darpariaeth Refeniw synhwyrol er mwyn ad-dalu dyled, ac i adrodd yn ôl ar statws yr adolygiad parhaus o bolisi isafswm darpariaeth refeniw ac unrhyw gyngor pellach am y dewisiadau i ddiwygio’r polisi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gyflwyno argymhellion y Cabinet  i isod Isafswm Darpariaeth Refeniw synhwyrol er mwyn ad-dalu dyled, ac i adrodd yn ôl ar statws yr adolygiad parhaus o bolisi isafswm darpariaeth refeniw ac unrhyw gyngor pellach am y dewisiadau i ddiwygio’r polisi. 

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at yr adolygiad diweddar o ddull y Cyngor o gyfrifo’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw a’r manteision o newid i fodel arall yn debyg i lawer iawn o awdurdodau lleol yn Lloegr. Adroddodd ar y tri phrif opsiwn i’w hystyried a’r gwahaniaeth rhwng y dulliau llinell syth a blwydd-dal a nodwyd yn yr adroddiad. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol pam y ffafriwyd y dull llinell syth yn adolygiad 2016/17 a pham y gellir ystyried y dull blwydd-dal yr un mor synhwyrol. Tynnodd sylw ar y tabl yn yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r gwahaniaeth yn yr Isafswm Darpariaeth Refeniw a godwyd am wariant cyfalaf cronfa’r Cyngor heb ei dalu, syddwedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth a benthyca digymorth gan ddefnyddio’r dull llinell syth presennol a’r dull blwydd-dal am y 50 mlynedd nesaf. 

 

Wrth ddod i gasgliad, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod synhwyroldeb yn gysyniad goddrychol ac felly ni allai unrhyw un o’r dulliau neu’r opsiynau a ddisgrifiwyd gael eu hasesu fel y dull cywir gan fod bob dim yn fater o  farn.  Roedd yn rhaid i'r dewis fod yn synhwyrol ond eto’n gynaliadwy a fforddiadwy dros y tymor hir a chyfrifoldeb y Cyngor oedd penderfynu pa ddull oedd y mwyaf synhwyrol.

 

Cydnabu'r Prif Weithredwr  gymhlethdod y pwnc ac fe soniodd am y gwaith a wnaed ar yr adolygiad o’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw y llynedd. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyd-destun yr adolygiad brys o’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw, yn dilyn argymhelliad a wnaed drwy adolygiad annibynnol diweddar o sefyllfa ariannol y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr, yn dilyn trafodaethau pellach gyda Swyddfa Archwilio Cymru ac ymgynghorwyr cadwedig, Arlingclose, bod swyddogion yn hyderus i argymell bod opsiwn 2, y dull blwydd-dal, yn ddull synhwyrol, cyson gyda chanllawiau, ac yn opsiwn ‘agored’ i’w ystyried gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd yn cefnogi’r argymhelliad ar gyfer opsiwn 2, gan nad oedd yn teimlo ei fod yn synhwyrol nac yn gynaliadwy oherwydd y byddai cynnydd yn y blynyddoedd i ddod.  Cyfeiriodd at adroddiad mewn cyfarfod Cabinet yn 2016 a’r cyngor a’r penderfyniad a wnaed ar yr adeg honno o ran synwyroldeb a’r Isafswm Darpariaeth Refeniw.  Awgrymodd parhau â’r dull llinell syth ar gyfer yr Isafswm Darpariaeth Refeniw er lles y cynllun ariannol tymor canolig.

 

Darparodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurder pellach mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Jones a dywedasant fod y dull blwydd-dal yr un mor synhwyrol â’r dull llinell syth presennol ac nid oedd y dull blwydd-dal am gostio mwy i’r Cyngor nac ychwaith i drethdalwyr Sir y Fflint gan ei fod yn ystyried gwerth amser arian.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y term  ...  view the full Cofnodion text for item 115