Mater - cyfarfodydd
Comments, Compliments and Complaints
Cyfarfod: 20/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 14)
14 Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion PDF 119 KB
Pwrpas: Trafod yr Adroddiad Blynyddol
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 2 summary of complaints across service areas, eitem 14 PDF 71 KB
- Enc. 3 summary of complaints across service areas, eitem 14 PDF 48 KB
- Enc. 4 summary of Stage 2 independent complaint investigations and outcomes, eitem 14 PDF 45 KB
- Enc. 5 summary of complaints investigated by the Public Services Ombudsman for Wales and outcomes, eitem 14 PDF 46 KB
- Enc. 6 summary of compliments received across service areas, eitem 14 PDF 46 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Cwynion ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad blynyddol ar Weithdrefn Cwynion a Chanmoliaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol 2016 -17. Dywedodd y gall adborth ar ffurf ganmoliaeth neu gwynion gan ddefnyddwyr gwasanaeth, eu teulu neu eu gofalwyr amlygu lle mae gwasanaethau yn gweithio'n dda neu lle mae angen newid gwasanaethau.
Adroddodd y Swyddog Cwynion ar yr ystyriaethau allweddol, a chyfeiriodd at y trosolwg o gwynion yn Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant, fel y nodir yn yr adroddiad, a’r gwersi a ddysgwyd. Eglurodd y Swyddog Cwynion fod crynodeb o gwynion ac archwiliadau ar draws y meysydd gwasanaeth wedi eu hatodi at yr adroddiad.
Cynghorodd y Swyddog Cwynion hefyd fod Gwasanaethau Cymdeithasol I Oedolion wedi derbyn 168 o ganmoliaethau yn ystod y flwyddyn a bod Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant wedi derbyn 53 o ganmoliaethau. Atodwyd crynodeb o’r canmoliaethau o’r ddau faes gwasanaeth fel atodiad 5 i’r adroddiad.
Nododd y Cynghorydd Andy Dunbobbin mai cyfeirio at fenywod oedd y crynodeb o gwynion a chanmoliaethau yn bennaf. Cytunodd y Swyddog Cwynion i ddarparu iaith heb fod yn rhyw benodol o fewn y dogfennau crynhoi yn y dyfodol a darparu manylion rhyw o fewn adroddiadau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad blynyddol ar Weithdrefn Cwynion a Chanmoliaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol 2016-17.