Mater - cyfarfodydd
Young Carers
Cyfarfod: 20/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 9)
Pwrpas: Rhoi gwybod i’r aelodau am newidiadau i Wasanaethau Gofalwyr Ifanc ac amlinellu’r strategaeth ar gyfer symud ymlaen
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad er mwyn rhoi gwybod am y newidiadau i Wasanaethau Gofalwyr Ifanc ac amlinellu’r strategaeth wrth symud ymlaen. Gwahoddodd Chisty Hoskings, Swyddog Cynllunio a Datblygu, i gyflwyno’r adroddiad.
Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y cytundeb dan gontract gyda Barnados Cymru i ddarparu Gwasanaethau Gofalwyr Ifanc. Eglurodd fod yr Awdurdod wedi gweithio’n agos gyda Barnados Cymru a gofalwyr ifanc i ail gynllunio rhannau o'r gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn unol â gofynion gofalwyr ifanc, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ac yn gallu cyflawni arbedion ariannol a osodwyd gan yr Awdurdod gyda’r effaith lleiaf posib ar ddarpariaeth gwasanaeth. Eglurodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gwaith a wnaethpwyd ac yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a’r canlyniadau a gyflawnwyd.
Adroddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu ar y prif ystyriaethau fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad a rhoddodd wybod fod y ddarpariaeth gwasanaeth newydd wedi ei gynllunio o amgylch pum llwybr at les Sir y Fflint ar gyfer Gofalwyr Ifanc. Adroddodd hefyd ar y gwasanaeth yn ystod 2016/17, y canlyniadau craidd a gyflawnwyd, heriau'r gwasanaeth, a’r gwaith wrth symud ymlaen at 2017/18.
Mewn trafodaeth ymatebodd Swyddogion i gwestiynau Aelodau am heriau’r Gwasanaeth a rhoddwyd sylwadau ar y toriadau ariannol sy’n digwydd bob blwyddyn, a’r newidiadau oherwydd hynny yn y ddarpariaeth Gwasanaeth er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posib gyda llai o adnoddau. Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu hefyd at y gwaith a wnaed i godi ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc a’u hanghenion drwy wasanaethau plant ac ysgolion, a’r gwaith a wneir ar y cyd gyda chyrff eraill a’r gymuned yn ehangach.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi ail gynllun, cynnydd a chanlyniadau’r gwasanaeth;
(b) Fod y Pwyllgor yn ysgrifennu at Uwch Reolwr Diogelu a
Chomisiynu, er mwyn mynegi pryderon am oblygiadau cyllido pellach; a
(c) Fod y Pwyllgor yn gofyn am ddiweddariad ar y goblygiadau ariannol a'r heriau mewn cyfarfod yn y dyfodol.