Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 13/03/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 65)

65 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg yr amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol gan atgoffa’r Aelodau am y gweithdy trafnidiaeth ar 11 Ebrill. Roedd y Cynghorydd Hinds yn ymddiheuro na fyddai’n bresennol. O ran yr eitemau ar yr amserlen, esboniodd yr Hwylusydd y byddai’r ymweliad safle â Pharc Adfer yn cael ei aildrefnu ar amser priodol.

 

Yn unol â chais y Cynghorydd Evans, cytunodd y swyddogion i gyflwyno’r adroddiad ar Orfodaeth a Gofal Amgylcheddol yng nghyfarfod mis Ebrill a fyddai’n cael ei gynnal ym Mharc Treftadaeth Maes-glas. Cytunwyd hefyd y byddai Aelodau yn cael eu gwahodd i fynd ar daith o amgylch y safle am 9.30am cyn i’r cyfarfod ddechrau am 10am.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel y bo’r angen.