Mater - cyfarfodydd

Halkyn Mountain Sustainable Management Scheme

Cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet (eitem 33)

33 Cynllun Rheoli Cynaliadwy Mynydd Helygain pdf icon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad hwn ac eglurodd, yn dilyn mynegi diddordeb llwyddiannus yng nghyswllt Comin Mynydd Helygain, fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gwahodd cais ar gyfer eu Cynllun Rheoli Cynaliadwy i fynd i’r afael â’r lleihad mewn pori drwy reolaeth briodol o lystyfiant a stoc. 

 

Byddai’r prosiect hefyd yn ystyried gwella’r ffordd y rheolir gweithgareddau hamdden ac yn annog gweithgareddau i dynnu sylw at fanteision iechyd a lles y Comin.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau oedd 1 Medi 2017 a byddai’r cynllun arfaethedig yn rhedeg rhwng 1 Ionawr 2018 a’r 31 Mawrth 2021 ar gost o £400,000.

 

                        Croesawodd y Cynghorwydd Butler yr adroddiad ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig a fyddai o fudd i bawb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r prosiect cydweithredol a chefnogi’r cais am grant i Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.