Mater - cyfarfodydd
Care and Social Services Inspectorate (CSSIW) Performance Review of Flintshire County Council Social Services
Cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet (eitem 26)
26 Adolygiad AGGCC o Berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint PDF 87 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad hwn oedd yn manylu ar y llythyr blynyddol gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) am y cyfnod rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2017.
Roedd y llythyr yn nodi’r cynnydd cyson gyda chwrdd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, gyda sylwadau cadarnhaol ar ddatblygu’r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth a’r Ganolfan Ymyrraeth Gynnar. Y themâu ffocws am y flwyddyn oedd gofalwyr a diogelu oedolion; byddai gweithredu’r trothwyon diogelu a’r canllawiau newydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mewn i’r flwyddyn ganlynol.
Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y llythyr yn cydnabod yr heriau parhaus gyda gweithredu’r trothwyon diogelu newydd a gyda gweithio’n strategol mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) oedd yn cael ei weithredu fel blaenoriaeth strategol i’r rhanbarth.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.