Mater - cyfarfodydd

Leisure and Libraries Alternative Delivery Model Capital Investment

Cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet (eitem 39)

Buddsoddiad Cyfalaf Model Darpariaeth Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd

Dogfennau ychwanegol:

  • Restricted enclosure 2
  • Restricted enclosure 3
  • Restricted enclosure 4

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad hwn oedd yn manylu ar y buddsoddiadau cyfalaf ar gyfer y Model Darparu Gwasanaethau Llyfrgell a Hamdden Amgen (ADM).  Gwnaed hyn yn dilyn cytuno i’r cynlluniau ar gyfer gweithredu’r ADM ym mis Rhagfyr 2016.

 

                        Er mwyn gallu symud ymlaen gyda’r cynlluniau, roedd angen cael penderfyniad gan Gyngor Sir y Fflint a chan Fwrdd newydd Aura Leisure and Libraries.  Roedd y Bwrdd wedi cytuno i symud ymlaen gyda gwaith dylunio mwy manwl a’r broses gaffael a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad.  Roedd yr adroddiad yn cynnig dyluniadau amlinell, amcangostau ac amserlen bosib ar gyfer y datblygiad oedd yn rhoi amser i’r Bwrdd a’r rhanddeiliaid chwarae rhan lawn yn natblygiad terfynol y cynlluniau cyfalaf. 

           

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno i ddatblygiad y cyfleusterau iechyd a ffitrwydd a’r cyfleusterau newid newydd yng Nghanolfan Hamdden Yr Wyddgrug a Phafiliwn Jade Jones;

 

(b)       Cytuno mai Cyngor Sir y Fflint fydd yn talu’r costau cyfalaf (ac eithrio cyfarpar).  Bydd y cynllun yn cael ei ychwanegu at raglen gyfalaf 2017/18, wedi’i ariannu gan fenthyca darbodus;

 

(c)        Lleihau’r cyllid i Aura Leisure and Libraries o’r lefel gymeradwy bresennol, ar y sail y bydd y datblygiadau hyn yn arwain at fedru codi incwm ychwanegol a lleihau’r cymhorthdal gan y Cyngor, gan arwain at gost net o nil i’r Cyngor o ganlyniad i ychwanegu’r cynllun at y Rhaglen Gyfalaf; a

 

(d)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol), mewn ymgynghoriad â Daliwr y Portffolio Addysg, gymeradwyo manylion y cynlluniau a wneir mewn cydweithrediad ag Aura Leisure and Libraries.