Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2017-23
Cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet (eitem 18)
18 Cynllun y Cyngor 2017-23 PDF 83 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd Cynllun y Cyngor am 2017-23 gan y Cynghorydd Mullin ac eglurodd fod y Cynllun wedi’i adolygu a’i ddiwygio i adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Cyngor dros gyfnod 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod strwythur y cynllun heb newid ers cynlluniau blaenorol a’i fod yn cynnwys chwech o flaenoriaethau ac is-flaenoriaethau perthnasol. Roedd y chwe blaenoriaeth yn cymryd barn hirdymor ynghylch prosiectau a dyheadau dros y pum mlynedd nesaf.
Byddai Cynllun y Cyngor yn cael ei gyflwyno fel dwy ddogfen gysylltiedig. Yn gyntaf y fersiwn ‘gyhoeddus’ o’r datganiadau o fwriad ar y chwe blaenoriaeth, ac yn ail y ddogfen yn disgrifio’r targedau a’r cerrig milltir y byddai’r hyn a gyflawnir yn cael ei fesur yn eu herbyn. Byddai’r targedau a’r cerrig milltir yn y ddogfen “Sut yr Ydym yn Mesur” yn cael eu hystyried gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol cyn eu cytuno’n derfynol gan y Cabinet ym mis Medi.
Byddai’r ddogfen yn cael ei defnyddio gan y Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i fonitro cynnydd drwy’r flwyddyn. Byddai Cynllun terfynol y Cyngor ar gael fel dogfen wedi’i chyhoeddi ar y wefan cyn diwedd Medi’n dilyn argymhelliad i’w gymeradwyo gan y Cyngor Sir.
Yn ddiweddar, roedd y Cynllun wedi’i adrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a ofynnodd am argymell dau ychwanegiad, a gefnogwyd, i’r Cabinet. Y rhain oedd (1) twristiaeth a chryfhau’r strategaeth economaidd, a (2) effaith bosib Brexit ar yr economi leol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Cynllun Gwelliannau 2017-23 cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu’n barod i’w gyhoeddi’n derfynol, gan gynnwys dau ychwanegiad ar y pwynt hwn: (1) twristiaeth a chryfhau’r strategaeth economaidd, a (2) effaith bosib Brexit ar yr economi leol.