Mater - cyfarfodydd
Measured Term Contract - Minor Refurbishment Works 2017 to 2021
Cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet (eitem 9)
9 Contract Tymor Penodol – Mân Waith Ailwampio, 2017-2021 PDF 89 KB
Pwrpas: Mae nifer o gontractau tymor penodol wedi’u defnyddio dros y chwe blynedd ddiwethaf i gaffael gwaith adeiladu ar gyfer rhaglen gyfalaf y Cyngor. Mae’r adroddiad hwn yn gofyn am gefnogaeth i ddatblygu contract tymor penodol newydd ar sail y contract presennol a fydd yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn egluro y byddai’r Contract Tymor Mesuredig 2015/16 presennol yn dod i ben fis Medi 2017.
Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) bod nifer o Gontractau Tymor Mesuredig wedi bod yn llwyddiannus ers 2010 a thros y saith mlynedd ddiwethaf roeddent wedi cyflawni Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar amser, o fewn y gyllideb ac i safon uchel yn gyson. Byddai Contract Tymor Mesuredig 2017 hyd at 2021 yn parhau gyda'r dull hwnnw.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Attridge, eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) bod pob Contract Tymor Mesuredig yn defnyddio contractwyr arweiniol lleol ac y byddai hyn yn parhau.
PENDERFYNWYD
Y dylid rhoi cymeradwyaeth i barhau â manylu, caffael a darparu Contract Tymor Mesuredig newydd dros gyfnod 2017 hyd at 2021.