Mater - cyfarfodydd

Active Travel Plan

Cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet (eitem 5)

5 Cynllun Teithio Llesol pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        Diweddaru'r Cabinet cyn y cyfnod ymgynghori ffurfiol ar y Cynllun Teithio Llesol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd wrth gyflawni swyddogaethau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ac fe ddywedodd fod y cyfnod ymgynghori wedi dechrau ar gyfer map rhwydwaith integredig arfaethedig y Cyngor yn y dyfodol.

 

            Roedd y Ddeddf yn gofyn bod awdurdodau lleol Cymru’n llunio mapiau teithio llesol ar gyfer yr ardaloedd o aneddleoedd diffiniedig ac yn darparu gwelliannau o un flwyddyn i'r llall ar lwybrau teithio llesol a’r cyfleusterau teithio llesol a oedd arnynt.  Roedd hefyd yn gofyn bod awdurdodau priffyrdd Cymru’n gwneud gwelliannau i’r llwybrau ac yn ystyried cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a beicwyr ym mhob cynllun gwella ffyrdd newydd ac yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr. 

 

Roedd y mapiau rhwydwaith integredig wedi’u datblygu ac roeddent yn barod ar gyfer trafodaethau anffurfiol ac roedd ymgynghoriadau a digwyddiadau gyda budd-ddeiliaid allweddol wedi’u cynnal ers mis Mawrth 2017. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet fis Hydref 2017 yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y map rhwydwaith integredig arfaethedig at y dyfodol a'r atodlenni ategol o welliannau arfaethedig i lwybrau cerdded a beicio yr oedd eu hangen ar y rhwydwaith cyn cyflwyno’r map rhwydwaith integredig i Lywodraeth Cymru erbyn 3 Tachwedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Attridge pa mor bwysig oedd cyhoeddusrwydd i’r cynllun hwn, gan gynnwys manylion am ddigwyddiadau ymgynghori. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac fe ddywedodd ei bod yn credu y byddai'r llwybrau beicio sydd eisoes wedi'u darparu yn cael eu defnyddio'n amlach pe bai mwy o oleuadau ar y llwybrau hynny. 

  

            PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cyfnod ymgynghori a oedd i ddod ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Integredig y Cyngor a oedd wedi’u cynllunio, a fyddai’n dechrau fis Gorffennaf 2017.