Mater - cyfarfodydd
Update on Provision of Residents Parking Schemes and Disabled Bays on the Highway Network
Cyfarfod: 16/06/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 8)
Adolygu Polisi Parcio Preswylwyr a chadarnhau’r broses ar gyfer darparu lleoedd parcio anabl wedi’u marcio ar y briffordd gyhoeddus.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Update on Provision of Residents Parking Schemes and Disabled Bays on the Highway Network, eitem 8 PDF 67 KB
- Appendix 2 - Update on Provision of Residents Parking Schemes and Disabled Bays on the Highway Network, eitem 8 PDF 51 KB
- Appendix 3 - Update on Provision of Residents Parking Schemes and Disabled Bays on the Highway Network, eitem 8 PDF 354 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd ddiweddariad ar ddarparu cynlluniau parcio i breswylwyr a lleoedd i bobl anabl ar y rhwydwaith priffyrdd.
Mabwysiadodd Cyngor Sir y Fflint Bolisi Parcio i Breswylwyr yn 2013, a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad. Ers cyflwyno’r polisi, mae nifer o gynlluniau wedi datblygu i’r cam ‘pleidlais leol’, ond ym mhob achos, mae’r cynnig wedi methu â chael y lefel ofynnol o gefnogaeth leol, felly nid oes unrhyw gynlluniau parcio i breswylwyr wedi’u rhoi ar waith yn y Sir. Er gwaethaf y diffyg prosiectau llwyddiannus, roedd mwyfwy o alw am Gynlluniau Parcio i Breswylwyr ymysg preswylwyr ac ardaloedd cymunedol ledled y Cyngor, ac roedd bellach angen dull o flaenoriaethu.
Cynigiwyd felly y dylid gweithredu Matrics Asesu Cynlluniau Parcio i Breswylwyr, ynghlwm yn Atodiad 3, i flaenoriaethu'r cynlluniau a geisir. Hefyd yn yr adroddiad, rhoddwyd manylion yr opsiynau sydd ar gael i breswylwyr sy’n gwneud cais am le parcio i bobl anabl ar y stryd y tu allan i’w heiddo.
Awgrymodd y Cynghorydd David Evans y dylid cynnwys manteision ac anfanteision y cynllun yn y llythyr wrth gychwyn ymgynghori â’r preswylwyr ar gynllun parcio arfaethedig. Gwnaeth sylwadau ar y polisi ar gyfer cynlluniau parcio i breswylwyr ac awgrymodd y dylid cynyddu isafswm yr ymatebion sydd eu hangen er mwyn gallu mynd ymlaen â chynllun o 50% i 75%. Gofynnodd hefyd a fyddai cyflwyno cynllun parcio i breswylwyr yn lleihau nifer y mannau parcio ar y stryd.
Eglurodd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd yr esboniwyd manteision ac anfanteision cynllun parcio i breswylwyr yn ystod y digwyddiadau galw heibio a’r ymgynghoriad cyhoeddus. Cytunodd i edrych ar gynyddu’r isafswm o ymatebion sydd eu hangen i 75% a nododd y byddai cynllun parcio i breswylwyr yn lleihau nifer y mannau parcio sydd ar gael.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sean Bibby, nododd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd, os na fyddai cynllun parcio i breswylwyr yn llwyddiannus, y byddai'r preswylwyr yn cael gwybod pam y methodd y cynllun trwy ddigwyddiadau ymgynghori lleol.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman yngl?n â chynllun arfaethedig yn Yr Wyddgrug a’r diffyg eglurder i’r preswylwyr, dywedodd Rheolwr y Strategaeth Briffyrdd y byddai’n ymchwilio i’r mater hwn yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
(a) Argymell y newidiadau i’r Polisi Parcio i Breswylwyr presennol i’r Cabinet, gyda diwygiad, sef cynyddu isafswm yr ymatebion sydd eu hangen gan breswylwyr o 50% i 75%;
(b) Argymell Matrics Asesu’r Cynlluniau Parcio i Breswylwyr i’r Cabinet, fydd yn cael ei ddefnyddio i flaenoriaethu ceisiadau yn y dyfodol am Gynlluniau Parcio i Breswylwyr; a
(c) Nodi meini prawf a phroses darparu mannau parcio wedi’u marcio i bobl anabl ar briffordd gyhoeddus.