Mater - cyfarfodydd
Leisure and Libraries Alternative Delivery Model
Cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet (eitem 11)
Model Amgen ar gyfer Darpariaeth Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd
Pwrpas: Cwblhau’r mân newidiadau strwythurol angenrheidiol cyn trosglwyddo’r gwasanaethau a symud ymlaen â chynlluniau cyfalaf.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Fodel Darpariaeth Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd ac a amlinellai fân newidiadau strwythurol yr oedd eu hangen cyn trosglwyddo gwasanaethau i’r cwmni newydd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod Gwasanaethau Llyfryddiaethol Sir y Fflint (Newnet), sydd ar hyn o bryd yn rhan o’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd, yn cael ei drosglwyddo i’r trefniadau cydweithio rhanbarthol yn Wrecsam;
(b) Bod trefniadau gweithredol ar gyfer swyddogaethau Mannau Agored, sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r Gwasanaethau Hamdden, yn cael eu trosglwyddo i Wasanaethau Strydwedd, Prisio ac Ystadau a Gwasanaethau'r Amgylchedd a Gwasanaethau Addysg ac Ieuenctid; a
(c) Cytuno ar newid rheolwr atebol swyddogaeth Datblygu’r Celfyddydau o'r Prif Lyfrgellydd i'r Prif Swyddog (Newid Sefydliadol).