Mater - cyfarfodydd
Early Intervention Hub and ACEs (adverse childhood experiences)
Cyfarfod: 28/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 11)
11 Canolfan Ymyrraeth Gynnar a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod PDF 125 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar drefniadau amlasiantaeth newydd ar gyfer ymyrryd yn gynnar i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Cofnodion:
Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Ieuenctid Integredig adroddiad ar drefniadau aml-asiantaeth newydd i ymyrryd yn gynnar i fynd i’r afael â phrofiadau plentyndod niweidiol. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac amlinellodd nod allweddol y Ganolfan Cymorth Cynnar, sef rhoi sylw i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol allweddol ac uchelgais y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i gael gwasanaethau mwy safonol a chost effeithiol sy’n sicrhau canlyniadau da i bawb yn Sir y Fflint. Dywedodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Ieuenctid Integredig i’r Ganolfan gychwyn lansiad meddal ar 30 Mehefin 2017. Mae’r lansiad meddal yn ymateb i atgyfeiriadau presennol gan bartner asiantaethau a chynhelir lansiad llawn ym mis Hydref 2017 yn dilyn seminarau gwybodaeth ehangach..
Yn ystod y drafodaeth ymatebodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Ieuenctid Integredig i’r cwestiynau am atgyfeiriadau gan wasanaethau iechyd, a strategaethau ymyrraeth gynnar.
Roedd yr aelodau’n cefnogi datblygu’r Ganolfan Cymorth Cynnar a chanmolasant bawb a fu’n ymwneud â’i sefydlu.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi datblygu’r Ganolfan Cymorth Cynnar ac yn cefnogi’r cynigion i gynnal lansiad llawn yn hydref 2017.