Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2016/17 (Month 12)

Cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet (eitem 6)

6 Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 12) pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn rhoi’r wybodaeth fonitro cyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 12 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 (Mis 12) a oedd yn rhoi manylion sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.  Byddai'r canlyniad terfynol yn cael ei adrodd fis Gorffennaf ar ôl gorffen cau cyfrifon 2016/17. 

 

Dyma’r sefyllfa diwedd blwyddyn a ragamcanwyd:

 

                        Cronfa’r Cyngor

 

·         Roedd y sefyllfa net yn ystod y flwyddyn yn cynnwys diffyg gweithredol o £0.846m; sy’n gynnydd yn y diffyg o £0.131m o’r sefyllfa a adroddwyd ym Mis 10.

·         Roedd y sefyllfa gyffredinol a ragamcanwyd yn ystod y flwyddyn yn cynnwys £2.886m oherwydd y newid yn y polisi cyfrifyddu ar gyfer Isafswm  Darpariaeth Refeniw (MRP) fel y cytunwyd gan y Cyngor Sir.  Effaith hyn oedd dileu'r diffyg gweithredol a rhagamcanwyd y byddai’r gwariant net £2.050m yn is na’r gyllideb.

 

·         Rhagamcanwyd y byddai balans y gronfa wrth gefn yn £5.144m.

 

Cyfrif Refeniw Tai

 

·         Rhagwelwyd y byddai gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.047m yn uwch na’r gyllideb.

·         Rhagamcanwyd y byddai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2017 yn £1.050m.

 

Darparai'r adroddiad fanylion am symudiadau cyllid sylweddol rhwng y gyllideb wreiddiol a’r un ddiwygiedig, y rhaglen o arbedion effeithlonrwydd, chwyddiant, cronfeydd wrth gefn a balansau a cheisiadau i symud cyllid yn ei flaen.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai unrhyw risgiau heb eu datrys ers 2016/17 wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet fis Gorffennaf.

 

Soniodd y Cynghorydd Thomas am y gorwariant yr oedd wedi’i dderbyn ar gyllideb ei phortffolio hi ac fe ddatganodd ei phryder yngl?n â darparu gwasanaethau sylfaenol pan fo diffyg yn y gyllideb.  Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai pwysau ar gyllidebau’n cael ei gynnal yn gorfforaethol a phe derbynnid unrhyw gyfraniadau ychwanegol i’r gyllideb, byddai'r rhain yn cael eu defnyddio’n gorfforaethol.  Rhoddodd y Cynghorydd Shotton bwyslais ar y lefel o ddarbodaeth ariannol a oedd yn wynebu’r Cyngor a dywedodd fod angen parhau i wrthwynebu hynny. 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2017;

 

 (b)      Nodi lefel derfynol ragamcanol balansau ar y Cyfrif Refeniw Tai; ac

 

 (c)       Y dylid cytuno ar y ceisiadau i symud cyllid ymlaen.