Mater - cyfarfodydd

Penodi Cadeirydd

Cyfarfod: 16/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 20)

Penodi Cadeirydd

Yn dilyn marwolaeth y Cyng. Ron Hampson, mae’n rhaid penodi cadeirydd newydd.  Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur.     Gan y penodwyd y Cynghorydd Ian Dunbar i’r rôl hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau’r Cynghorydd Ian Dunbar fel Cadeirydd y Pwyllgor.


Cyfarfod: 14/06/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 1)

Penodi Cadeirydd

Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd

 

Penderfyniad:

Cadarnhau’r Cynghorydd Ron Hampson fel Cadeirydd y Pwyllgor.

 

 

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Llafur.  Gan y penodwyd y Cynghorydd Ron Hampson i’r rôl hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau’r Cynghorydd Ron Hampson fel Cadeirydd y Pwyllgor.