Mater - cyfarfodydd

Integrated Youth Provision

Cyfarfod: 20/06/2017 - Cabinet (eitem 12)

Darpariaeth Ieuenctid Integredig

Pwrpas:         Rhoi diweddariad ar y strwythur rheoli ar gyfer y gwasanaeth Darpariaeth Ieuenctid Integredig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynnig i ailffurfio arweinyddiaeth Darpariaeth Ieuenctid Integredig ar ôl mabwysiadu'r cynllun darparu integredig ar gyfer gwasanaethau ieuenctid a'r model parhad o angen ar gyfer gwasanaethau arbenigol cyffredinol / wedi’u targedu.

 

                        Diolchodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) i’r holl Gynghorwyr a oedd wedi bod yn rhan o’r gweithdy a’r holl staff yn y timau gweithredol.  Roedd y gwaith yn canolbwyntio ar ddiogelu’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed i fod yn ddiogel yn y byd rhithwir ac roedd hwn yn gyfnod cyffrous i ymgysylltu â phobl ifanc.  Soniodd y Cynghorydd Shotton am y Rhybudd o Gynnig a fyddai’n cael ei ystyried yn y Cyngor Sir yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw, a oedd yn cynnig sefydlu Cyngor yr Ifanc ar gyfer Sir y Fflint, a fyddai’n rhan o waith y Gwasanaeth Ieuenctid yn y dyfodol.

 

                        Ar y pwynt hwn, cymerodd y Cynghorydd Shotton gyfle i ddiolch i Mr Ian Budd, y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ar ran yr holl Aelodau Cabinet am ei holl waith caled ers dechrau gweithio i Gyngor Sir y Fflint a dymunodd yn dda iddo yn ei rôl newydd.

           

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Rhoi cefnogaeth i ailffurfio arweinyddiaeth y gwasanaeth i ddarparu arweinyddiaeth effeithlon ac effeithiol ar gyfer darpariaeth ieuenctid integredig ac i alluogi rhoi cefnogaeth i gynllunio ar gyfer olyniaeth;

 

(b)       Cefnogi ailffocysu gwaith cyfranogi uniongyrchol gyda phobl ifanc i gynnwys mwy o ddulliau cyfathrebu dros gyfryngau cymdeithasol a llythrennedd digidol; a

 

(c)        Cefnogi arloesed model gwasanaethau cyfredol sy'n tyfu o gomisiynu sawl maes yn y gwasanaeth i'r 3ydd sector neu i gyrff allanol eraill.