Mater - cyfarfodydd

Appointment of Lay Member to the Audit Committee

Cyfarfod: 18/05/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 11)

11 Penodi Aelod Lleyg i'r Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        I benodi Aelod Lleyg newydd i'r Pwyllgor Archwilio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i gytuno ar benodi aelod Lleyg i'r Pwyllgor Archwilio.  Gwnaeth Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 hi’n ofynnol i’r Cyngor Sir benodi aelodau lleyg hyd at draean o aelodaeth y Pwyllgor Archwilio.  Ar 14 Chwefror 2014 penderfynodd y Cyngor Sir benodi’r lleiafswm statudol o un aelod lleyg.

 

            Ar ôl hysbysebu’r swydd, cynhaliwyd cyfweliadau ar 8 Mai ac argymhellwyd y dylid penodi Sally Ellis.  Atodwyd disgrifiad o Sally Ellis fel atodiad i’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn cytuno i benodi’r ymgeisydd a ffafrir, Sally Ellis fel aelod lleyg i’r Pwyllgor Archwilio, gan wasanaethu am dymor o 5 mlynedd.