Mater - cyfarfodydd
Schedule of Remuneration 2017-18
Cyfarfod: 18/05/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 10)
10 Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol 2017-18 PDF 84 KB
Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i dderbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran taliadau cyflog/ lwfans Aelodau a gwneud sawl penderfyniad ‘dewis lleol’.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol. Eglurodd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol bob blwyddyn yn pennu cyfraddau tâl a fyddai’n cael eu gwneud i Aelodau etholedig a chyfetholedig awdurdodau lleol Cymru ar gyfer blwyddyn y Cyngor sydd i ddod. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cynnig y gwanwyn blaenorol gyda’r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2017 a oedd yn gosod lefel y taliadau i Aelodau ar gyfer 2017/18.
Rhaid gosod lefelau tâl ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor, Aelodau’r Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau. Rhaid i’r Cyngor hefyd gyhoeddi atodlen yn dangos pwy dderbyniodd pa lefel o dâl. Felly, byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 20 Mehefin unwaith y byddai penodiadau wedi eu gwneud i swyddi tâl uwch. Cadarnhawyd fod pob swydd o’r fath yn cynnwys y cyflog sylfaenol o £13,400.
Cynigiodd Aaron Shotton y dylai’r status quo aros ar gyfer Aelodau’r Cabinet, Cadeiryddion Pwyllgorau, Cadeirydd y Cyngor ac Is-gadeirydd y Cyngor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.
Cynigiodd y Cynghorydd Chris Dolphin welliant y dylid cytuno ar y taliad lleiaf i bob un o’r swyddi sy’n derbyn taliad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Owen Thomas. O'i roi i bleidlais, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig gwreiddiol, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton, a chafodd ei gymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylai Aelodau’r Cabinet dderbyn Lefel 1, sy’n cynnwys y cyflog sylfaenol;
(b) Dylid talu cyflog uwch Lefel 1 i Gadeiryddion y Pwyllgor, sy’n cynnwys cyflog sylfaenol;
(c) Dylai tâl Cadeiryddion y Cyngor fod ar Lefel 2, sy’n cynnwys cyflog sylfaenol; a
(d) Dylai tâl Is-gadeirydd y Cyngor fod ar Lefel 2, sy’n cynnwys cyflog sylfaenol.