Mater - cyfarfodydd
Flintshire County Council Elections 4th May 2017
Cyfarfod: 18/05/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 7)
7 Etholiadau Cyngor Sir y Fflint dydd Iau 4 Mai 2017 PDF 76 KB
Pwrpas: I adrodd i’r Cyngor Sir ar gynnal a chanlyniadau etholiadau Cyngor Sir 2017.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Flintshire County Council Elections 4th May 2017, eitem 7 PDF 74 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Etholiadau Cyngor Sir y Fflint dydd Iau 4 Mai 2017
Cofnodion:
Llongyfarchodd y Prif Weithredwr, fel Swyddog Canlyniadau, bob Aelod ar gael eu hethol i’r Cyngor. Cyflwynodd yr adroddiad ar Etholiadau’r Cyngor Sir a oedd wedi eu cynnal ar 4 Mai 2017.
Cadarnhaodd yr adroddiad fod yr etholiadau lleol wedi eu cynnal yn unol â chyfraith etholiadau, canllawiau ac arfer cyffredin, ac yn unol â’r safonau perfformiad a amlinellir ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, a darparwyd manylion yngl?n â chanlyniadau etholiadau a chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor.
Diolchodd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y Tîm Etholiadau, ymgeiswyr, asiantwyr a gweithredwyr y pleidiau am eu rhan yn yr etholiad a gwnaeth sylw am anhawster cynyddol y broses yn sgil twf cyfryngau cymdeithasol.
Diolchodd hefyd i aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd am eu rhan yn y sesiynau sefydlu.
Diolchodd y Cynghorydd Peers a Paul Shotton y Tîm Etholiadau am eu help yn ystod yr etholiad a hefyd i’r Swyddog Canlyniadau, Dirprwy Swyddog Canlyniadau, staff gorsaf bleidleisio a staff y cyfrif.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y sylwadau di-fudd a wnaed gan Brif Weinidog Cymru cyn yr etholiad ynghylch ymgeiswyr Annibynnol. Roedd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am ymddiheuriad ond nid oedd wedi cael un hyd yma.
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod gwall yn atodiad yr adroddiad gan ei bod wedi sefyll fel ymgeisydd Llafur. Ymddiheurodd y Prif Weithredwr am hyn.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.