Mater - cyfarfodydd

Flintshire County Council Elections 4th May 2017

Cyfarfod: 18/05/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 7)

7 Etholiadau Cyngor Sir y Fflint dydd Iau 4 Mai 2017 pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I adrodd i’r Cyngor Sir ar gynnal a chanlyniadau etholiadau Cyngor Sir 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Prif Weithredwr, fel Swyddog Canlyniadau, bob Aelod ar gael eu hethol i’r Cyngor.  Cyflwynodd yr adroddiad ar Etholiadau’r Cyngor Sir a oedd wedi eu cynnal ar 4 Mai 2017. 

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod yr etholiadau lleol wedi eu cynnal yn unol â chyfraith etholiadau, canllawiau ac arfer cyffredin, ac yn unol â’r safonau perfformiad a amlinellir ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, a darparwyd manylion yngl?n â chanlyniadau etholiadau a chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor. 

 

Diolchodd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y Tîm Etholiadau, ymgeiswyr, asiantwyr a gweithredwyr y pleidiau am eu rhan yn yr etholiad a gwnaeth sylw am anhawster cynyddol y broses yn sgil twf cyfryngau cymdeithasol.

 

Diolchodd hefyd i aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd am eu rhan yn y sesiynau sefydlu.

 

Diolchodd y Cynghorydd Peers a Paul Shotton y Tîm Etholiadau am eu help yn ystod yr etholiad a hefyd i’r Swyddog Canlyniadau, Dirprwy Swyddog Canlyniadau, staff gorsaf bleidleisio a staff y cyfrif.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y sylwadau di-fudd a wnaed gan Brif Weinidog Cymru cyn yr etholiad ynghylch ymgeiswyr Annibynnol.  Roedd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am ymddiheuriad ond nid oedd wedi cael un hyd yma.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod gwall yn atodiad yr adroddiad gan ei bod wedi sefyll fel ymgeisydd Llafur.  Ymddiheurodd y Prif Weithredwr am hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.