Mater - cyfarfodydd

Constitutional Matters : Committees and Internal Bodies

Cyfarfod: 18/05/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 8)

8 Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau a Chyrff Mewnol pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.  Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried.  Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisio arnynt yn eu tro.

 

            Yn ogystal, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth hefyd i benodi aelod lleyg newydd i'r Pwyllgor Archwilio a amlinellwyd mewn adroddiad ar wahân, a hefyd cymeradwyo’r broses dros ddewis cynrychiolydd tref a chymuned ar y Pwyllgor Safonau.  Roedd hefyd nifer o newidiadau i’w gwneud o ran y modd y byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn gweithredu i sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth a ddaeth i rym ar 5 Mai 2017.

 

 (A)      Penodi Pwyllgorau

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol:Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad; Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, Pwyllgor Cyd-lywodraethu (ar gyfer Pensiynau), Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu, Pwyllgor Safonau a chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. 

 

            Roedd gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd swyddogaethau tebyg iawn.  Yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor y Cyfansoddiad roedd cais i gyfuno’r ddau bwyllgor.  Credwyd fod y cylch gwaith statudol yn ddigon eang i ymgorffori’r swyddogaeth a gyflawnwyd gan Bwyllgor y Cyfansoddiad felly argymhellwyd ymgorffori Pwyllgor y Cyfansoddiad i mewn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a eiliwyd gan y Cynghorydd Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Ymgorffori Pwyllgor y Cyfansoddiad i mewn i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac y dylai’r Cyngor Llawn adolygu, creu neu ddirymu is-ddeddfau;

 

 (b)      Dylid penodi’r Pwyllgorau a amlinellir yn adran 1.04 yr adroddiad; a

 

 (c)       Dylid diwygio’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r pwyllgorau a benodwyd.

 

 (B)      Penderfyniad ar faint Pwyllgorau

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol.  Amlinellwyd y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad.

 

Crëwyd Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdod Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 ar 21 Mawrth a daethant i rym ar 5 Mai 2017.  Roeddent yn gorchymyn y dylai’r Pwyllgor Cynllunio gynnwys rhwng 11 a 21 Aelod o ran maint a dim mwy na 50% o aelodaeth lawn y Cyngor.  Roedd maint arfaethedig y Pwyllgor yn cyflawni’r gofynion hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y dylid cymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Dylai maint pob Pwyllgor fod yn unol â’r hyn a amlinellwyd ym mharagraff 1.06 yr adroddiad, gan nodi'r cyfyngiadau sy'n rhaid eu gweithredu bellach i aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio.

 

 (C)      Cylch Gorchwyl Pwyllgorau a Dirprwyon Pensiwn

 

            Eglurodd y Prif Swyddog Llywodraethu ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y pwyllgorau a benodwyd ganddo.  Amlinellwyd cylch gorchwyl presennol y Pwyllgorau presennol fel yr amlinellwyd yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a eiliwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r  ...  view the full Cofnodion text for item 8