Mater - cyfarfodydd
Outside Bodies
Cyfarfod: 18/05/2017 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 9)
Pwrpas: Galluogi’r Cyngor i ystyried enwebiadau i Gyrff Allanol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar Gyrff Allanol yr oedd y Cyngor yn gwneud penodiadau iddynt, ynghyd â’r rhai hynny a enwebwyd a’u tymhorau penodol yn y swydd. Yn dilyn etholiadau diweddar y Cyngor Sir, roedd angen ystyried pob enwebiad.
Ym mhob Cyfarfod Blynyddol, gwnaed argymhelliad i ddirprwyo i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau gwleidyddol, y gallu i wneud penodiadau i gyrff. Roedd angen dirprwyo r?an i wneud yr enwebiad cyntaf a hefyd yn ystod blwyddyn y Cyngor 2017/18 a fyddai’n sicrhau y gellid ymdrin yn effeithlon ag unrhyw newidiadau.
Y bwriad oedd fod pob enwebiad a wnaed yn parhau drwy gydol oes y Cyngor, tan fis Mai 2022.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hutchinson, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod pob aelod wedi peidio â bod yn gynrychiolwyr ar gyrff allanol cyn yr etholiad ac roeddent yn ceisio enwebiadau newydd.
Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Phillips, eglurodd y Prif Weithredwr fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrthi’n pennu’r niferoedd i'w dyrannu i bob Cyngor ar gyfer cynrychiolydd ar y Panel Heddlu a Throsedd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn nodi'r rhestr Cyrff Allanol presennol;
(b) Bydd pob enwebiad yn para tan fis Mai 2022 oni bai fod yr Aelod a enwebwyd yn ymddiswyddo o’r Corff Allanol hwnnw; a
(c) Bod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau, yn cael ei awdurdodi i wneud enwebiadau i Gyrff Allanol ar ran y Cyngor.