Mater - cyfarfodydd
Flintshire private sector stock condition survey 2017
Cyfarfod: 14/03/2017 - Cabinet (eitem 169)
169 Arolwg cyflwr stoc sector preifat 2017 PDF 81 KB
Pwrpas: Diweddaru aelodau o ganfyddiadau o'r arolwg cyflwr stoc sector preifat 2017.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Brown adroddiad Arolwg Cyflwr Stoc y Sector Preifat 2016 oedd yn crynhoi canfyddiadau allweddol arolwg cyflwr stoc y sector preifat 2016.
Seiliwyd yr arolwg ar sampl o 1,223 o anheddau a darparodd feincnod o gyflwr tai yn Sir y Fflint o’i gymharu ag arolwg 2010 a chyd-destun ehangach Cymru neu Loegr. Roedd cyflwr y stoc wedi gwella ers arolwg meincnodi 2010, gyda’r mwyaf o anheddau o ansawdd waelach i'w gweld yn y sector rhentu preifat sydd ar gynnydd.
Mae’r sector rhentu preifat wedi tyfu’n sylweddol yn Sir y Fflint ac roedd nifer o feysydd pryder allweddol yn ei gylch:
· Roedd bron i 40% o'r tenantiaid wedi bod yn byw yn y cyfeiriad ers llai na 2 flynedd; gydag effaith ganlyniadol ar sefydlogrwydd aelwydydd a chydlyniant cymunedol;
· Mae tai rhentu preifat yn fwy tebygol o fod mewn cyflwr gwael gyda 25.4% mewn cyflwr anaddas o’i gymharu â 18.1% ar gyfer Sir y Fflint gyfan; ac
· Roedd tai rhentu preifat yn fwy tebygol o fod yn aneffeithlon o ran ynni, gyda chyfradd Gweithdrefn Asesu Safonol gyfartalog o 56 o’i gymharu â 59 ar gyfer Sir y Fflint gyfan.
Bydd y Cyngor yn parhau i geisio cyllid allanol i gyflawni gwelliannau i gyflwr ac effeithiolrwydd ynni stoc tai'r sector preifat yn ardaloedd o amddifadedd mwyaf Sir y Fflint.
PENDERFYNWYD:
Adolygu’r pwyntiau allweddol oedd yn codi o arolwg cyflwr stoc y sector preifat 2016.