Mater - cyfarfodydd
An outline plan for Play Area and All Weather Pitch Capital Expenditure
Cyfarfod: 14/03/2017 - Cabinet (eitem 170)
170 Cynllun amlinellol ar gyfer Gwariant Cyfalaf ar Ardal Chwarae a Maes Pob Tywydd PDF 79 KB
Pwrpas: Cytuno ar gynllun amlinellol ar gyfer Gwariant Cyfalaf.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Jones adroddiad y Cynllun Amlinellol ar gyfer Gwariant Cyfalaf ar Fannau Chwarae a Chaeau Pob Tywydd, oedd wedi’i seilio ar angen.
Roedd Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor wedi cymeradwyo symiau ar gyfer gwariant yn y dyfodol ar fannau chwarae a chaeau pob tywydd, yn ychwanegol at y £0.105m o refeniw bob blwyddyn ar gyfer cynlluniau arian cyfatebol mannau chwarae.
Roedd gan y Cyngor nifer o gaeau chwarae pob tywydd yn y Sir oedd angen buddsoddiad sylweddol. Roedd y ddau yn Alun Yr Wyddgrug a Phenarlâg dros 10 oed a’r rhain oedd yn cael y flaenoriaeth uchaf ar gyfer eu hamnewid. Roedd y chwe chae yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn 7 oed, yn cael eu defnyddio’n helaeth ac yn cynhyrchu incwm sylweddol. Rhagwelwyd yn wreiddiol y byddent yn para 7 mlynedd a dyma oedd cyfnod ad-dalu’r buddsoddiad arnynt hefyd, felly roedd angen rhaglen amnewid.
Yn dilyn arolwg chwarae annibynnol o fannau chwarae, roedd y cynnig i gynnal gwaith yn 2017/18 yn canolbwyntio ar y mannau canlynol, fyddai’n golygu na fyddai’r mannau chwarae hyn yn cael eu graddio’n goch mwyach:
· Min Awel, Y Fflint £0.025m;
· Ffynnongroyw £0.025m;
· Dee View Road, Cei Connah £0.025m; a
· Bron y Wern, Bagillt £0.025m.
Un o flaenoriaethau blynyddoedd 2 a 3 fyddai’n man chwarae newydd yn Bailey Hill, oedd wedi’i raddio’n goch ac oedd yn cael ei ystyried fel rhan o gynllun datblygu ehangach Cronfa Dreftadaeth y Loteri, er nad oedd y cynllun yn gymwys i ariannu’r man chwarae. Y meysydd blaenoriaeth eraill ar gyfer blwyddyn 2 a 3 oedd y mannau chwarae eraill oedd wedi’u graddio’n goch, a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Ar sail yr anghenion a’r blaenoriaethau a amlinellir yn yr adroddiad, cynigiwyd mai’r rhaglen gychwynnol a ystyriwyd yn ddichonadwy ar gyfer 2017/18, yn amodol ar brisio terfynol, oedd y canlynol:
Cae pob tywydd Ysgol Uwchradd Alun Yr Wyddgrug;
Cae pob tywydd Ysgol Uwchradd Penarlâg;
Caeau pob tywydd 1 a 2 Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy;
Man chwarae Bron y Wern, Bagillt;
Man chwarae Min Awel, Y Fflint;
Man chwarae Ffynnongroyw; a
Dee View Road, Cei Connah.
Byddai hynny’n gadael y caeau pob tywydd a’r mannau chwarae a amlygir yn yr adroddiad fel blaenoriaethau ar gyfer blynyddoedd 2 a 3, gyda chytundeb o gyflwyno cynllun terfynol bob blwyddyn i’r Cabinet. Byddai’r cynllun arian cyfatebol mannau chwarae yn ceisio rhoi cymorth i unrhyw fannau chwarae sydd wedi’u graddio’n goch na ellir eu fforddio o fewn y cynllun cyffredinol neu os gellid fforddio’r rhain i gyd, byddai’r mannau chwarae sydd wedi’u graddio’n oren yn cael cymorth.
Croesawodd yr Aelodau’r ymrwymiad a roddwyd i fannau chwarae a chaeau pob tywydd, yn enwedig y cynllun treigl ar gyfer eu hamnewid, ar sail blaenoriaeth, fyddai o fudd i ysgolion a’r cymunedau ehangach ledled y Sir.
PENDERFYNWYD:
Cytuno ar y cynllun amlinellol ar gyfer gwariant cyfalaf ar fannau chwarae a chaeau pob tywydd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.